Cost of Living Support Icon

New Art Central LogoOriel Celf Ganolog 

Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, Y Barri CF63 4RW (Mynediad drwy lyfrgell y sir)

 

Lleolir oriel Celf Ganolog, gofod arddangos clodfawr y Fro, yng nghanol y sir. Mae’n lle godidog i arddangos ynddo, i ymweld ag e ac i werthfawrogi celf ynddo.

 

Mae oriel Celf Ganolog yn ofod golau, hyblyg a chroesawgar  Mae rhaglen Celf Ganolog yn cynnwys arddangosfeydd amrywiol gan artistiaid, grwpiau cymunedol, ac arddangosfeydd amlwg a theithiol. Mynediad AM DDIM. 

 

 

Meddwl ar y Cyd: Sculpture Cymru a Ffrindiau

Cerflunwyr yng Nghymru

Arddangosfa gelf Cerflun Cymru

Sculpture Cymru : Mae Sculpture Cymru yn grŵp o gerflunwyr sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Ffurfiwyd y sefydliad yn 2000 i greu cyfleoedd i gerflunwyr ddod at ei gilydd i greu gwaith, arddangos a chyfnewid syniadau. Mae ei aelodau'n parhau i ddatblygu eu harferion eu hunain tra'n cyfuno i ddatblygu a hyrwyddo'r arfer o gerflunio yng Nghymru. 

 

Gwahoddodd aelodau presennol artistiaid a cherflunwyr gwadd o bob rhan o Gymru i arddangos eu gwaith. Mae’r sioe arddangos hon, sy’n cynnwys dros gant o weithiau, yn dangos amrywiaeth eang o ddeunyddiau, arferion a gweledigaethau'r cerflunwyr dan sylw. Mae'r arddangosfa'n codi proffil y grŵp, drwy wneud cysylltiadau â cherflunwyr eraill, a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. 

 

Er bod yr aelodaeth, tua ugain, yn gymharol fach, mae’r grŵp hefyd yn darparu gweithdai ac amrywiaeth o ddigwyddiadau. Yn ogystal, mae'r artistiaid hefyd yn dangos eu gwaith yn annibynnol.

 

Cerflun gan Mared DaviesMae'r grŵp wedi cyflwyno ac arddangos ledled y DU gan gyrraedd miloedd o ymwelwyr mewn lleoliadau sy'n cynnwys Parc Margam, Gardd Genedlaethol Cymru, Yr Oriel - Cowcross Street, Llundain, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chastell Cydweli yn ogystal ag yn yr Oriel Gelf Ganolog yn flaenorol. Yn ogystal, mae Canolfan y Celfyddydau Canolbarth Cymru yn gartref parhaol i'r grŵp.

 

Ar wahân i'r digwyddiadau grŵp hyn, mae pob aelod yn dangos eu gwaith yn rheolaidd fel unigolion mewn arddangosfeydd, cynadleddau, sgyrsiau ac fel comisiynau. 

 

Am ragor o wybodaeth neu os ydych chi'n gerflunydd proffesiynol yng Nghymru ac mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni ewch i Sculpture Cymru.

 

Dydd Sadwrn 02 Tachwedd 2024 - Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025

 

Digwyddiad Agoriadol: Dydd Sadwrn 02 Tachwedd 1pm - 3pm

 

Manylion Arddangosfa llawn

 

Ar y gweill! yn yr Oriel Gelf Ganolog

Arddangosfa Cofio’r Holocost

 

Dydd Sadwrn 18 Ionawr - Dydd Sadwrn 22 Chwefror 2025

 

Dydd Llun 27 Ionawr 2025 Diwrnod Coffa'r Holocost

 

Cymdeithas Gelfyddydau’r Menywod Cymru

 

Dydd Sadwrn 08 Mawrth - Dydd Sadwrn 05 Ebrill 2025

 

Agoriad: Dydd Sadwrn 08 Mawrth 2025

 

Arddangosfeydd Blaenorol

Refractions and Abstractions PosterToriadau a Thynnu

Arddangosfa Ffotograffiaeth gan Malcom Downes

 

Dydd Sadwrn Awst 17 - dydd Sadwrn Medi 14 2024

 

Digwyddiad Agoriadol: Dydd Sadwrn Awst 17 2024, 11yb - 1yp

 

Manylion Arddangosfa llawn

 

Arddangos yn Oriel 

Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos eich gwaith neu gynnal gweithdai neu ddigwyddiadau yn oriel Celf Ganolog, llenwch ein ffurflen ar-lein: 

Ffurflen Gais Arddangos

 

Nodwch: Mae’r broses geisio’n un gystadleuol ac ni fydd pob cais yn llwyddiannus.

 

Gwirfoddoli 

Oes gennych ddiddordeb yn y celfyddydau? Mae Oriel Celf Ganolog yn chwilio am wirfoddolwyr. Byddai angen i wirfoddolwyr gynorthwyo ymwelwyr a’r Swyddog Datblygu’r Celfyddydau 

 

 

Crefftau yn Oriel 

Mae amrywiaeth o grefftwaith cyfoes ar werth yn oriel Celf Ganolog gan artistiaid o Gymru ac artistiaid rhyngwladol. Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos a gwerthu eich gwaith celf yn yr oriel, bydd angen i chi ddarparu manylion a lluniau o’ch gwaith ynghyd â CV a/neu lythyr eglurhaol.