Preifatrwydd a Chwcis
Pan fo rhywun yn ymweld â'r wefan www.bromorgannwg.gov.uk/, rydyn ni'n casglu gwybodaeth mewngofnodi safonol gwefannau a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn canfod pethau fel nifer yr ymwelwyr ar wahanol adrannau'r wefan. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth mewn ffordd nad sy'n adnabod neb. Nid ydyn ni'n gwneud unrhyw ymgais i ddod o hyd i nodweddion adnabod ymwelwyr â'n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu o'r wefan hon â gwybodaeth sy'n adnabod unigolion o unrhyw ffynhonell. Os ydyn ni'n dymuno casglu gwybodaeth sy'n adnabod unigolion trwy'n gwefan, byddwn ni'n hollol dryloyw am hyn. Byddwn ni'n nodi'n eglur pryd y byddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio'r hyn rydyn ni am ei wneud â hi.
Hysbysiad Preifatrwydd
Defnydd cwcis gan Gyngor Bro Morgannwg
Ffeiliau testun bychain ydy cwcis sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Defnyddir nhw'n gyffredin i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.
Mae'r tabl isod yn egluro pa gwcis rydyn ni'n eu defnyddio a pham.
cookies
Cwci | Enw | Pwrpas |
Coronafeirws |
Olrhain, profi, amddiffyn |
Coronafeirws: Olrhain, profi, amddiffyn rhybudd preifatrwydd
|
Google Analytics |
_utma
_utmz
_baga
|
Casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i goladu adroddiadau ac i'n helpu ni i wella'r wefan. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r wefan, o ble y daeth yr ymwelwyr a'r tudalennau y gwnaethon nhw ymweld â nhw. Google Privacy.
|
Derbyn cwcis ar wefan Cyngor Bro Morgannwg |
CookiesAccepted |
Cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn defnydd cwcis ar wefan Cyngor Bro Morgannwg |
MyVale |
ASP.NET_SessionId
atMyCouncil
astun
BIGipServerdunlin_pool
atLocation
astun:currentLocation
astun:mapSource
astun:previousLocation
astun:mapView
astun:lyrs_ish_ValeOfGlamorgan_AllMaps
astun:baseMap
astun:vLyrs_ish_ValeOfglamorgan_AllMaps
astun:layerPanelOpenGroups
|
Galluogi'r adnodd mapio ar adran MyVale y wefan. |
eCitizen |
JSESSIONID UNIQUEREQID |
Cwci sesiwn a ddefnyddir i sicrhau bod y sesiwn we gywir yn cael ei defnyddio. Mae angen y cwci hwn i eDdinesydd weithio. |
Taliadau |
eforms_return1 eforms_return2 anite_eforms_session anite_eforms_session_hash anite_eforms_session_mode EForm Options EForm LIMIT TEST BIGipServerwww_http_pool eforms_origin1 |
Mae cwcis yn hanfodol i weithredu’r system daliadau. Fe’u defnyddir i gadw trafodion y cwsmer yn y fasged siopa.
Os dewiswch analluogi cwcis yn eich porwr ni fydd y wefan daliadau’n gweithio am na allwn gadw eitemau yn y fasged siopa.
|
Y Blynyddoedd Cynnar |
ASP.NET_SessionId Tribal.EYO CELanguageCookie CETestCookie PESearchCookie PECompareCookie PELanguageCookie PETestCookie theme lang USER_ROLES EnrolFormsAuth Tribal.SAM
|
Mae cwcis yn hanfodol i weithredu’r system Blynyddoedd Cynnar.
Fe’u defnyddir i awdurdodi.
Fe’u defnyddir i gadw rhifau adnabod Darparwyr a ddychwelyd mewn chwiliadau a’u dewis i’w cynnwys yn y Fasged / wrth Argraffu.
Fe’u defnyddir i gadw rhifau adnabod Darparwyr i’r swyddogaeth gymharu.
Storio iaith ddewis y defnyddiwr.
Fe’u defnyddir i storio thema ddewis yn y Porthol.
|
Mae mwyafrif porwyr y we'n caniatáu rhywfaint o reolaeth dros gwcis trwy fframwaith y porwr. I ganfod mwy am gwcis, gan gynnwys pa rai sydd wedi eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu nhw, ewch i:
www.allaboutcookies.org
I ddewis peidio á chael eich tracio gan Google Analytics ar unrhyw wefan, ewch i:
Optio allan o tracio Google Analytics
Cwcis YouTube
Rydyn ni'n mewnosod fideos o'n sianel fideo YouTube swyddogol gan ddefnyddio uwch-osodiad preifatrwydd YouTube. Gall y gosodiad hwn roi cwcis ar eich cyfrifiadur unwaith y byddwch chi wedi clicio ar chwaraeydd fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio cwcis adnabod unigolion ar gyfer chwarae fideos wedi eu mewnosod gan ddefnyddio'r uwch-osodiad preifatrwydd. I ganfod mwy, ewch i dudalen gwybodaeth mewnosod fideos YouTube.
Gwybodaeth gosod fideos YouTube
Hysbysiad Preifatrwydd GovDelivery
Rydym yn defnyddio’r llwyfan GovDelivery, sy’n cael ei ddarparu gan Granicus, ar gyfer ein cylchlythyron. Pan fyddwch yn cofrestru byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon diweddariadau rheolaidd atoch ar y pynciau rydych wedi’u dewis. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd a ddad-danysgrifio o’r gwasanaeth hwn.
Mae Granicus yn storio eich data yn UDA ac mae wedi’i ardystio dan y fframwaith Tarian Preifatrwydd UE-UDA. Pan fyddwch yn cofrestru i’n cylchlythyron, rydych yn cytuno i’ch data gael ei storio fel hyn.
Fel prosesydd data ar ran Cyngor Bro Morgannwg, bydd GovDelivery yn defnyddio eich gwybodaeth i e-bostio cylchlythyron atoch. Sut mae GovDelivery yn casglu a storio eich gwybodaeth
Pa fath o ddata personol sy’n cael ei brosesu?
- Cyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth am weithgareddau tanysgrifwyr (e.e. clicio ar ddolenni, dyddiad digwyddiad/stamp amser)
- Dewisiadau tanysgrifwyr (pynciau tanysgrifio)
- Gwybodaeth am ddiwrnodau casglu gwastraff - Dim ond os ydych wedi tanysgrifio i’r pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff.
- Gwybodaeth am y math o ailgylchu - Dim ond os ydych wedi tanysgrifio i’r pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff.
- Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (RhCEU) - Dim ond os ydych wedi tanysgrifio i’r pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff. Mae hyn i baru eich tanysgrifiad ag unrhyw newidiadau casglu yn y dyfodol er mwyn osgoi’r angen i ail-danysgrifio.
Sut caiff fy ngwybodaeth ei defnyddio?
Bydd gwybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni yn cael ei defnyddio i:
- Anfon newyddion a gwybodaeth atoch dros e-bost
- Anfon bwletinau eiddo-benodol atoch (os ydych wedi rhoi eich RhCEU ar gyfer y pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff)