Adolygiad o gerfluniau, henebion, enwau strydoedd ac enwau adeiladau - ac awgrymiadau ar gyfer coffáu yn y dyfodol
Mae’r Cyngor wrthi’n rhagweithiol yn adolygu’r holl gerfluniau a’r coffadwriaethau, gan gynnwys enwau strydoedd, adeiladau cyhoeddus a phlaciau, ym Mro Morgannwg. Bydd y gwaith hwn yn digwydd er mwyn sicrhau bod cerfluniau a choffadwriaethau ar dir cyhoeddus, yn ogystal ag enwau strydoedd ac adeiladau i’w hadolygu, yn cynrychioli gwerthoedd pobl leol a rhai Cyngor modern a chynhwysol. Os ydych wedi gweld coffadwriaeth rydych chi’n credu y dylai gael ei hadolygu er mwyn sicrhau ei bod yn briodol, llenwch ffurflen ar-lein. Sicrhewch eich bod yn cynnwys lleoliad a rheswm dros adolygu.
Cyflwyno Coffadwriarth i'w Hadolygu