Cost of Living Support Icon

Cymorth Busnes

Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar gyfer eich busnes neu sefydliad, a’r holl gyfleoedd cyllid a phartneriaeth diweddaraf ym Mro Morgannwg a thu hwnt. 

Mae eich tîm datblygu economaidd yma i’ch cyfeirio at gyllid priodol a chyfleoedd i fuddsoddi, adleoli neu dyfu eich busnes ym Mro Morgannwg.   

Vale Economy Logo - bilingual

 

Cymorth Busnes Bro Morgannwg

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y dudalen we hon. Caiff ei diweddaru'n rheolaidd i gynnwys y cyllid a'r cynlluniau  diweddaraf ar gyfer busnesau.

 

  • Gall Cyngor y Fro 
    • Hwyluso trafodaeth gyfrinachol â phartneriaid allweddol gan gynnwys asiantaethau cymorth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru megis Trade & Investe Wales a Busnes Cymru.
    • Eich helpu i greu cysylltiadau â busnesau eraill yn y rhanbarth
    • Cynnal gweithdai a digwyddiadau busnes.
    • Cefnogi cyfleoedd cadwyni cyflenwi a chaffael
    • Rhoi gwybodaeth am gynllunio a deddfwriaeth arall
    • Gweithio gyda chi i edrych ar gyfleoedd buddsoddi a datblygu
    • Eich galluogi i weld ystadegau a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â Bro Morgannwg.
    • Cyfeirio at ffynonellau cyllid
    • Cynnal eich busnes yn un o'n llu o unedau busnes 

  • Cymorth Busnes Bro Morgannwg
    • Os hoffech gofrestru eich diddordeb i gael derbyn diweddariadau e-bost ynghylch cymorth busnes, cwblhewch ein Ffurflen Gyswllt Busnes 
    • Os hoffech i ni hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwasanaethau, y digwyddiadau a'r cyfleoedd i fusnesau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol, bydd gofyn i chi gwblhau'r caniatâd RhDDC/GDPR.

 

 

 

 

Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Mae Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro yn fenter adfywio a datblygu economaidd a arweinir gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. 

 

Diben y fwrsariaeth yw hyrwyddo amodau a fydd yn helpu entrepreneuriaid i weithredu eu syniad busnes.  Gall hyn gynnwys rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ddatblygu syniad busnes, darparu'r offer neu'r adnoddau angenrheidiol i ddechrau busnes a helpu gyda chostau lleoliad busnes.

 

Darganfold mwy

Grant Gwella Masnachol

Bydd y Grant Gwella Masnachol yn darparu cymorth ar gyfer y gwelliannau a'r gwaith cynnal a chadw i wella gwedd flaen eiddo masnachol a manwerthu ym Mro Morgannwg a gwella ansawdd yr ardal fasnachu fewnol gan gynnwys hygyrchedd.

 

Darganfold mwy

Eiddo Masnachol Gwag

Ydych chi'n chwilio am eiddo masnachol gwag ym Mro Morgannwg ar gyfer eich busnes? Mae gan ein cronfa ddata eiddo y rhestrau diweddaraf o dir ac eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg.

 

Darganfold mwy

     

Gweithdai ac Unedau Dechreuol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn helpu busnesau lleol mewn sawl ffordd. Un o’r rhain yw drwy gynnig unedau gweithdy ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach. 

 

Darganfold mwy

 

Invest in the Vale (Welsh)

 

 

Funding (Welsh)
Information (Welsh)

 

Business 2 Business (Welsh)

 

Advice (Welsh)

  

Invest in the Vale front page Welsh

Buddsoddi ym Mro Morgannwg

Mae’r pamffled hwn wedi rhoi’r cyfle i ni ddathlu popeth sy’n unigryw am weithio a byw yn y Fro ac mae’n arddangos yr ystod o fusnesau hynod lwyddiannus.

Bydd y Cyngor yn parhau i weithio’n galed i hyrwyddo Bro Morgannwg mewn partneriaeth â CCRCD fel lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddiadau mewnol ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol.

 

 

Lawrlwythch y llyfryn Buddsoddi yn y Fro

 

 

 

Barry Story front cover Welsh

Stori Y Barri

Lle ar  gyfer busnes ac arloesedd, yn gysylltiedig â'r byd

Mae’r Barri’n unigryw ym Mhrydain. ‘Does unman arall yn cynnig hanes diwydiannol rhyngwladol a glan môr euraid ochr wrth ochr.  

 

Cliciwch ar y llyfryn i ddysgu mwy am y Barri o’r gorffennol a'r presennol. 

 

 

 

 

Lawrlwytho Stori Y Barri

 

   

Cysylltu â Ni 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth. 

 

  

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan