Newid o ran Amgylchiadau
Yn ystod cyfnod budd-dal efallai y bydd rhai o'ch amgylchiadau yn newid, er enghraifft, rydych yn newid swydd, yn dechrau derbyn budd-dal gwladol arall, neu mae rhywun yn symud i mewn neu allan o’ch cartref. Rhaid i chi roi gwybod i’r swyddfa hon am bob newid, yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y byddant yn digwydd.
Cynnydd mewn Budd-dal: Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni am newid cyn pen un mis o’r newid ar gyfer Budd-dal Tai a 21 diwrnod ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor, yna gallwch golli rhan o’ch budd-dal. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i’r swyddfa hon ar eich rhan. Os ydych yn ansicr, ffoniwch y swyddfa hon i ofyn am gyngor, neu ysgrifennwch atom gyda'r wybodaeth sydd gennych. Byddwn ni wedyn yn penderfynu a fydd y wybodaeth dan sylw yn newid eich budd-dal ai peidio.
Gostyngiadau o ran Budd-dal: Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau, a'n bod ni'n sylweddoli hynny yn ddiweddarach, yna caiff eich budd-dal ei newid o ddyddiad y dechreuodd y newid, a chaiff unrhyw ordaliad budd-dal a wnaed ei adennill oddi wrthych chi.
Mae peidio â rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau yn fwriadol yn drosedd a gall arwain at erlyniad.