Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Trwyddedu

Trwyddedau a gyflwynir gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

Mae Gwasanaeth Trwyddedu Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am drwyddedu amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau. Rydym yn dod ar draws y rhan fwyaf o’r rhain yn ystod ein bywydau o ddydd i ddydd.

  

Yn ogystal â hynny, rheolir nifer o drwyddedau gan adrannau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a’r Priffyrdd.

 

Noder: Rheolir trwyddedau gan nifer o wahanol adrannau a gwasanaethau. Ewch i'r dudalen drwyddedu berthnasol i weld y manylion cyswllt perthnasol.

 

Rydym wrthi'n diweddaru ein gwybodaeth drwyddedu Siop Anifeiliaid Anwes. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser cysylltwch â licensing@valeofglamorgan.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

 

 

 

Gwneud Cais

Cysylltwch â’r tîm trwyddedu i wneud cais am y trwyddedau canlynol:

  • Anifeiliaid Gwyllt Peryglus
  • Ffrwydron (Tân Gwyllt ac ati)

 

 

Cofrestrau Cyhoeddus

Cedwir cofrestrau cyhoeddus o drwyddedau a chofrestriadau penodol. Mae modd gweld cofrestrau ar-lein neu drwy gysylltu â'r adran berthnasol i drefnu apwyntiad.

 

  • Cofrestrau Cyhoeddus Trwyddedu

    Mae modd gweld Cofrestrau Cyhoeddus drwy drefnu apwyntiad ymlaen llaw. 

    Tîm Trwyddedu

    Swyddfeydd Dinesig

    Heol Holltwn

    Y Barri

    Bro Morgannwg

    CF63 4RU

     

    • 0300 123 6696

     

    -Sefydliadau Lletya Anifeiliaid

    -Lleoliadau wedi’u cymeradwyo i gynnal Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil

    -Tystysgrifau Safleoedd Clwb – LA03

    -Sefydliadau Lletya Cartref

    -Casgliadau o Dŷ i Dŷ

    -Hypnotiaeth

    -Anifeiliaid sy’n Perfformio

    -Siopau Anifeiliaid Anwes

    -Petrolewm

    -Cychod Pleser

    -Trwyddedau Safleoedd – LA03

    -Sefydliadau Marchogaeth

    -Tystysgrifau Diogelwch i Stondinau Rheoledig Meysydd Chwaraeon

    -Tystysgrifau Diogelwch i Feysydd Chwaraeon

    -Sefydliadau Rhyw

    -Casgliadau Stryd

    -Masnachu Stryd

    -Sefydliadau Tatŵo, Tyllu ac Electrolysis

    -Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro – LA03

    -Sŵau 

  • Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn a Ddynodir  

 

Os byddwch am wneud cais am wybodaeth dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, dan Ddeddf Diogelu Data 1998 neu dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ewch i  Uned RhG Cyngor Bro Morgannwg i gael rhagor o wybodaeth.

 

Gwasanaethau Trwyddedu

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

  • 0300 123 6696

 

 

Cownter Trwyddedu - Oriau agoriadol 

 Mae'r Cownter Trwyddedu yn gweithredu drwy apwyntiad yn unig, o ddyd Llun i ddyd Gwener.

 I wneud cais am apwyntiad, e-bostiwch licensing@valeofglamorgan.gov.uk