Adroddiad Blynyddol Monitro Cydraddoldeb – Data Agored
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith i sicrhau bod data cydraddoldeb cyrff cyhoeddus ar gael, fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol),(Cymru) 2011.
Rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gyhoeddi gwybodaeth am faterion yn ymwneud â chyflogaeth bob blwyddyn, a chyflwyno'r wybodaeth honno mewn perthynas â phob un o'r noweddion gwarchodedig. Er bod cyrff cyhoeddus unigol yn cyhoeddi'r wybodaeth hon, nid yw'n hawdd cael mynediad at y data bob amser.
Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adroddiad ar rianta a chyflogaeth yng Nghymru a oedd yn cynnwys yr argymhelliad “Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data cyflogaeth sy’n ofynnol yn unol â dyletswyddau sector cyhoeddus Cymru mewn un lleoliad ar wefan Llywodraeth Cymru, mewn fformat sy’n ei gwneud yn bosibl dadansoddi’r data yn rhwydd.”
Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad ond, gan fod cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn gyfrifol am gydymffurfio â'r ddyletswydd, roedd yn nodi mai'r dull gweithredu a ffefrir ganddi fyddai gweithio gyda'r sector i sicrhau bod data am ei ddyletswydd yn cael eu cyhoeddi fel data agored hawdd cael mynediad atynt. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu un lleoliad penodol er mwyn sicrhau ei bod yn hawdd defnyddio’r wybodaeth hon.
Pam data agored?
Yn ôl y Sefydliad Data Agored, data agored yw data sydd ar gael yn rhwydd i bawb eu defnyddio a'u rhannu. Mae cyrff cyhoeddus yn cyhoeddi llawer o'u data am faterion sy'n ymwneud â'u dyletswydd cydraddoldeb mewn fformat pdf mwy o faint, sef fformat y gallai fod yn anodd cael mynediad at y data, oni bai bod y defnyddiwr yn gwybod lle i chwilio. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod data cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cael eu cyflwyno mewn fformat data agored y gall peiriannau ei ddarllen, a lle mae'r data mewn tablau mewn taenlenni data agored (y gellir eu cynhyrchu mewn Excel) o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Gellid gwneud hynny ochr yn ochr â'r adroddiadau pdf sy'n bodoli eisoes. Byddai sicrhau bod holl ddata cyrff cyhoeddus ar gael o un lleoliad penodol ar-lein yn hybu tryloywder ac yn hwyluso cyfleoedd i ddysgu gan eraill.
2017 - 2018