Cost of Living Support Icon

Effeithlonrwydd Ynni Cartrefi 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi. 

 

Picture2
Bydd yn anoddach cadw cartrefi nad ydynt yn ynni-effeithlon (gyda Sgôr Perfformiad Ynni o dan C) yn gynnes, a bydd y cartrefi hynny’n cael biliau ynni uwch ac yn pwmpio mwy o CO2 i'r atmosffer o'u cymharu â'u cymdogion mwy effeithlon. Gall gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref drwy insiwleiddio a thechnolegau ynni adnewyddadwy gynnig amrywiaeth o fuddion i chi yn ogystal ag i’n planed.

 Buddion i chi: 

  • Lleihau swm y gwres a gollir yn sylweddol
  • Lleihau eich biliau ynni
  • Eich cadw’n gynnes yn y gaeaf, ac yn oer yn yr haf
  • Lleihau eich ôl troed carbon
  • Gwella Sgôr Perfformiad Ynni (Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY)) eich eiddo, gan ei wneud yn fwy deniadol i brynwyr
  • Gwneud eich cartref yn fwy cyfforddus ac atal lleithder
Picture3

 

Ffyrdd syml o ddefnyddio llai o ynni ac arbed ar eich biliau ynni: 

Picture6
  • Trowch eich thermostat i lawr gan 1°c 
  • Diffoddwch y goleuadau yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio a defnyddiwch fylbiau arbed ynni
  • Peidiwch â gadael pethau yn y modd segur
  • Peidiwch â gorlenwi’r tegell – berwch y dŵr sydd ei angen arnoch
  • Defnyddiwch beiriannau golchi a sychu i gapasiti llawn oni bai bod gennych osodiadau hanner llwyth
  • Peidiwch â gadael tapiau'n diferu, yn enwedig tapiau dŵr poeth
  • Caewch ddrysau i gadw gwres mewn ystafelloedd

 I gael mwy o awgrymiadau arbed ynni, ewch i’r Ymgyrch Help For Households 

 

Mae cadw’n gynnes yn hollbwysig, yn enwedig i bobl hŷn yn y cartref. Mae Age UK yn argymell gwisgo haenau a chadw'n actif gartref, ac mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datblygu Cynllun Mannau Cynnes gyda rhwydwaith o fannau cymunedol cynnes a chroesawgar yn dod â phobl ynghyd y gaeaf hwn heb unrhyw gost.  Yn fwy na hynny, mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynghylch Cymorth Costau Byw 

 

Mesurau y gallwch eu rhoi ar waith i'ch helpu i aros yn gynnes gartref ac i leihau eich biliau ynni:

 

  • Insiwleiddiwch eich to, eich llawr a’ch waliau
  • Rhowch ddeunydd atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri
  • Uwchraddiwch eich system wresogi i foeler ynni-effeithlon neu bwmp gwres
  • Gosodwch wydr dwbl neu driphlyg
  • Defnyddiwch ffynonellau ynni adnewyddadwy, megis pŵer solar
  • Gwiriwch sgôr TPY eich cartref neu gael prawf TPY i gael argymhellion personol
  • Gofynnwch i'ch darparwr ynni osod mesurydd Deallus i'ch helpu i reoli eich defnydd a'ch costau ynni.
Picture5

  

Prosiect Sero

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd. Mae’n dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol i gefnogi Prosiect Sero gartref.

Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru

 

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw. Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu i leihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon. Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel inswleiddio, pwmp gwres neu baneli solar.

 

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i’r wefan llyw.cymru/nyth

Nest logo

 

 

Cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gan gynnwys ECO4 Flex)

ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r darparwr ynni E.ON i gefnogi aelwydydd mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael, gan wneud y cartrefi hynny'n fwy ynni-effeithlon a helpu i leihau effaith biliau ynni cynyddol.

 

Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn gosod meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer ECO4 Flex o 19eg Mai 2023 tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

 

Am fwy o wybodaeth: Dogfen Wybodaeth ECO4 E.ON

 

 

Ydych chi’n gosod eiddo?

Os ydych yn gosod eiddo, dylech fod yn ymwybodol o'r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni (srs.wales) ar gyfer landlordiaid.

 

Mae cyngor ychwanegol ar sut i godi safonau TPY ar gyfer eiddo ar gael ar-lein. Find ways to save energy in your home - GOV.UK (www.gov.uk)