Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid ein bod ni gyda’n gilydd yn cydnabod ac yn deall y dylai’r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maen nhw’n eu gwasanaethu gyda'u bywydau.
Ei ddwy egwyddor yw, gan gydnabod rhwymedigaethau unigryw'r Lluoedd Arfog a’r aberthau a wneir ganddynt:
Na ddylai'r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, boed yn rheolaidd neu wrth gefn, y rheiny sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, a'u teuluoedd, wynebu unrhyw anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol
Bydd ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig o ran y sawl sydd wedi cyfrannu mwyaf, drwy anaf a phrofedigaeth er enghraifft
Os ydych chi’n aelod o’r Lluoedd Arfog, yn gyn-filwr, yn aelod o’r teulu agos, neu’n ŵr neu’n wraig weddw, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i hwyluso mynediad rhwydd i’r gefnogaeth a’r hawliau sy’n ddyledus i chi.
Mae’r term ‘cymuned y lluoedd arfog’ yn cyfeirio at bawb sydd neu a fu’n aelodau o’r Fyddin, y Llynges, yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Fasnachol (mewn cyfnod o frwydro). Mae’r gymuned hefyd yn cynnwys aelodau’r teulu agos a dibynyddion y sawl sydd wedi gwasanaethu.
Mae ystod eang o wasanaethau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer cymuned y lluoedd arfog ar gael gan lywodraeth leol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau trydedd sector. Gall dod o hyd i’r sefydliad gorau i helpu fod yn broses ddryslyd.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am wasanaeth, gwenwch yn siŵr ein bod yn gwybod eich bod yn aelod o gymuned y lluoedd arfog. Yn aml iawn, maw rheolau arbennig yn berthnasol i aelodau’r gymuned yng nghyd-destun gwasanaethau llywodraeth leol, ac rydyn ni’n awyddus i sicrhau eich bod yn medru elwa ar y rhain.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog
Gwasanaeth Cynghori Cyn-Filwyr
Cronfa Grant Sefydliad y Maer
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Grantiau a budd-daliadau
Iechyd a lles
GIG Cyn-filwyr Cymru
Cymorth Tai
Homes4U
Y Dreth Gyngor a budd-daliadau
Nofio am ddim i gyn-filwyr
Porth y Cyn-filwyr
Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Woody's Lodge
Gofal plant a chymorth i deuluoedd
Swyddi gwag o fewn y Cyngor
Llyfrgelloedd Lleol
Ysgolion
Gofal Cymdeithasol - gweithio gyda'r rhai sydd angen cymorth
Swyddfa Gwirfoddolwyr y Fro