Cost of Living Support Icon

Llifogydd

Mae’n gyfrifoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg i weithredu camau rhesymol i atal dŵr rhag rhedeg oddi ar y briffordd a fabwysiadwyd i dir preifat. 

 

Er hynny, cofiwch mai ffenomen naturiol yw llifogydd, ac ni all unrhyw system ddraenio na mesurau diogelwch ddarparu amddiffynfa lwyr rhag pob achos o orlifo. 

Gan amlaf, y gwasanaethau brys, mewn cydweithrediad â’r awdurdod lleol, sy’n ymateb i lifogydd. Rydyn ni’n cydlynu ymadawiadau ac yn darparu lloches frys a gwasanaethau cymdeithasol eraill.

 

 

Gwytnwch Cymunedol

Er mwyn cryfhau gwytnwch cymunedau Bro Morgannwg, cynhyrchwyd y Cynllun Llifogydd Cymunedol a Chanllawiau Tywydd Eithriadol mewn cydweithrediad a phartneriaid. Mae'r ddogfen isod yn darparu cyngor ynglŷn â thywydd eithriadol a sut i baratoi Cynllun Llifogydd Cymunedol. Gall y cynllun hwn cael ei gwblhau gan aelwydydd, grwpiau cymunedol neu grwpiau sy'n paratoi ar gyfer lifogydd ar ran y gymuned.

 

Cynllun Llifogydd Cymunedol a Chanllawiau Tywydd Eithafol

 

Gallwch ddefnyddio gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Cynlluniau llifogydd cymunedol.

 

 

Bagiau Tywod

Nid ydym yn cyflenwi bagiau tywod. Dylech wneud eich trefniadau eich hun i brynu bagiau tywod o siopau DIY a masnachwyr adeiladwyr lleol. Sylwch eich bod hefyd yn gyfrifol am waredu bagiau tywod ail law. Gallant gael eu halogi gan ddŵr llifogydd, carthion, olew neu danwydd ac efallai y bydd angen eu trin fel gwastraff halogedig.

 

Ein hysbysu am lifogydd ar briffordd

Os gwelwch chi lifogydd ar unrhyw heolydd ym Mro Morgannwg, cysylltwch â ni:


Rhybudd llifogydd

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru’n gyson ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a gallwch eu ffonio unrhyw bryd ar:

  • 0845 988 1188

Dŵr yn eich cartref

Os oes llifogydd eisoes wedi effeithio ar eich eiddo, cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân:

  • 999

Niwed i bibell y prif gyflenwad dŵr

Os mai niwed i un o bibellau’r cyflenwad dŵr sy’n achosi’r llifogydd, cysylltwch â Dŵr Cymru:

  • 0800 085 3968

 
Nodwch: yn achos gorlifiad carthffosiaeth o unrhyw fath, cysylltwch â’r cwmni dŵr perthnasol. Maent yn rheoli eu rhwydwaith eu hunain o bibellau carthffosiaeth a dŵr arwyneb.

Preswylydd neu berchennog yr eiddo

Ar breswylydd neu berchennog eiddo mae’r cyfrifoldeb am amddiffyn yr eiddo yn achos llifogydd. Y preswylydd neu’r perchennog sydd hefyd yn gyfrifol am unrhyw golledion, gwaith atgyweirio neu fesurau adfer sy’n briodol. 

Pan fod perchnogion neu breswylwyr yn byw wrth ymyl cwrs dŵr, meysydd neu gaeau lle ceir lefel uchel o ddŵr gwastraff, dylent baratoi ymlaen llaw pan fydd rhagolygon y tywydd yn addo glaw mawr. Nid yw systemau draenio’r priffyrdd wedi eu cynllunio i dderbyn lefelau hynod uchel o ddŵr sy’n rhedeg oddi ar gaeau cyfagos, ac ni allant ymdopi â nhw.

 

Am wybodaeth bellach am gynllunio, rheoli ac ôl-effeithiau llifogydd, gweler y dolenni isod.