Ydych chi'n poeni am ddod yn ddigartref?
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio teclyn newydd i helpu pobl i ddod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Offeryn cyngor ar dai
Gwnewch Apwyntiad yn y Swyddfeydd Dinesig
Gallwch nawr wneud apwyntiad ar-lein er mwyn ymweld a swyddog datrysiadau tai yn y Swyddfeydd Dinesig. Gallwch drefnu apwyntiad 14 diwrnod o flaen llaw.
Wrth gyrraedd, dilynwch y system giwio sydd mewn lle. Bydd ymgynghorydd yn gwirio eich apwyntiad ac yn eich tywys i’r ystafell gyfweld pan fydd ar gael. Dewch â'r holl ddogfennau angenrheidiol sy’n berthnasol i’ch ymholiad gyda chi, a bydd hyn yn helpu'r cynghorydd i reoli eich penodiad yn effeithlon.
Gwneud Apwyntiad
Mae pob apwyntiad wyneb yn wyneb am 50 munud. Dylech gyrraedd dim mwy na 5 munud cyn eich apwyntiad. Os oes angen apwyntiad hirach arnoch, ffoniwch y swyddfa a gallwn drefnu hyn ar eich rhan:
Sylwer: Wrth wneud eich apwyntiad, bydd y wybodaeth gyswllt a roddoch yn cael ei chadw am 21 diwrnod ar gyfer Cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru er mwyn cyfyngu lledaeniad Covid-19.