Diogelu Data – Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth
Mae’r rhain yn rhoi hawliau penodol i unigolion mewn perthynas â gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanynt. Gallech fod am wneud cais am wybodaeth benodol sy’n cael ei chadw gan y cyngor amdanoch chi. Gelwir hyn yn Gais Gwrthrych am Wybodaeth.
Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018 yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol.
Gallwch wneud cais am wybodaeth drwy ein drwy ysgrifennu i:
Yr Uned Rhyddid Gwybodaeth
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
Bro Morgannwg
CF63 4RU
Yn gyffredinol, caiff y ceisiadau hyn eu prosesu am ddim, ond gweler Polisi Codi Tâl Mynediad i Wybodaeth y Cyngor uchod am wybodaeth am y cyfyngiadau. Mae’n bosibl y gofynnwn i chi gadarnhau pwy ydych chi wrth brosesu ceisiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn wrth ymateb.
Dan rai amgylchiadau, mae yna eithriad i’r hawl. Os oes eithriad yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn pan fyddwn yn ymateb.
Mae angen i ni gynnig gwybodaeth am y camau a gymerwyd mewn perthynas â chais heb oedi’n afresymol ac o fewn un mis o dderbyn y cais ar y mwyaf. Gallai’r cyfnod gael ei estyn am ddeufis arall lle bo angen, gan ystyried cymhlethdod a nifer y ceisiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw estyniad o fewn un mis o dderbyn y cais.