Taith Gerdded Menywod Penarth
Lansiwyd y daith gerdded hon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2014, ac mae’n eich tywys i 15 man o ddiddordeb sy’n gysylltiedig â’r menywod yma a gyflawnodd bethau mawr yn ystod eu bywydau.
Ymhlith y pymtheg mae Emily Ada Pickford, a gwelir ei henw ar Garreg Goffa Penarth ym Mharc Alexandra hefyd. Cantores a cherddor oedd Emily, a theithiodd ledled y ffrynt Gorllewinol yn diddanu’r milwyr. Bu farw dan amgylchiadau trasig pan lithrodd y car roedd hi’n teithio ynddo ar iâ ar ôl iddi fod yn perfformio mewn cyngerdd yn Gouy yn Ffrainc, a syrthiodd i mewn i afon Somme.
Menyw nodedig arall yw Ray Howard-Jones (y llun ar y dde), artist rhyfel o’r Ail Ryfel Byd. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei darluniau o arfordir Penarth ac am gofnodi’r paratoadau ym Mro Morgannwg ar gyfer cyrch D-day yn Normandi.
Gweld map