Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau a gweithdai i’w mwynhau ledled Bro Morgannwg.
Artistiaid sy’n arwain dosbarthiadau o grwpiau bach mewn awyrgylch anffurfiol, difyr. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu eu syniadau drwy gyfres o brosiectau ymarferol ac areithiau â darluniau, sy’n archwilio effaith ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol yn eu cyd-destun diwylliannol a hanesyddol.
Canolfan y Celfyddydau Chapter
Mae Andrew Coslett yn cynnal dosbarth dyfrlliw a darlunio cynnes a chyfeillgar tair awr bob wythnos. Sesiwn y bore: 9:30am - 12:30pm / Sesiwn y prynhawn: 1:00pm - 4:00pm.
Cyfle i rannu, dysgu a mireinio’ch sgiliau artistig. Mae aelodau’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau ac arddulliau o baentio dyfrlliw traddodiadol i ddelweddau aml-gyfrwng a digidol ar gyfrifiadur.
Eglwys y Santes Fair, Y Barri
Cyfle i bobl â dementia i gwrdd i gyd-ganu cyn cael paned a chlonc.
Eglwys All Saints, Penarth
Arddangos crefft cyfansoddi caneuon ar ei ffurf buraf gyda pherfformiad gan dri artist o fri.
Canolfan y Celfyddydau San Dunwyd
Mae côr cymunedol Canolfan y Celfyddydau’n cwrdd bob nos Lun i ymarfer.
Mae’r côr yn awyddus i ddenu’r cantorion ifanc gorau i ymuno â nhw.
Hon oedd y gerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf yn y byd. Erbyn hyn, mae ganddi dros 65 mlynedd o brofiad o gynnig hyfforddiant penigamp i gerddorion ifanc. Mae’n ysbrydoliaeth i gerddoriaeth ieuenctid yng Nghymru.
Mae Omidaze yn gweithredu mewn dau brif faes, sef Addysg OMIDAZE a Chynyrchiadau OMIDAZE.
I bobl ifanc o Gymru sydd rhwng 16 a 21 oed sydd eisoes yn ymwneud â grŵp drama yn yr ysgol neu’r coleg, neu gyda grŵp theatr ieuenctid leol.
Caiff dosbarthiadau eu rhannu yn ôl oed. Mae’r cwmni’n cwrdd bob dydd Sadwrn yn Llanilltud Fawr ac yn cynnal tair sioe’r flwyddyn yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Os ydych chi’n aelod o grŵp cymunedol sy’n awyddus i gyflwyno sioe broffesiynol yn eich cymuned leol, mae Noson Allan yn derbyn y risg ariannol drosoch chi. Yn ogystal, gall gynnig help a chyngor ymarferol, ariannu, tocynnau a syniadau am gynyrchiadau theatr i chi.
Gwefan Noson Allan
Grŵp theatr amatur croesawgar, cyfeillgar a phrysur sy’n cyflwyno amrywiaeth eang o gynyrchiadau.029 2070 3588 Dosbarthiadau Dawns y Stryd i bobl ifanc Neuadd Murchfield, Dinas Powys Cynhelir dosbarthiadau dawns y stryd bob nos Wener.
Canolfan Gymunedol Castleland, Belvedere Crescent, Y Barri, CF63 4JZ
Dosbarthiadau arobryn neuadd ddawns a Lladin America i oedolion.
Bydd y dosbarth dechreuwyr newydd yn dechrau ar 3 Hydref 2023 rhwng 8.30 p.m. – 10.00 p.m.
Mae’r Cwmni’n gweithio gyda phobl ifanc o Gymru gyfan, ochr yn ochr â dawnswyr rhyngwladol a choreograffwyr adnabyddus, yn rhai o leoliadau gwychaf Cymru.
I blant ac oedolion
Dewch aton ni unwaith y mis i ddawnsio a chwrdd â ffrindiau newydd yn yr ystafell wydr hyfryd sy’n edrych dros y môr. Te prynhawn a chacennau. 2.00pm - 4.00pm
Gwefan Canolfan y Celfyddydau San Dunwyd