Cost of Living Support Icon

Ymroddiadau a Chofebion

Mae coed, meinciau a phlaciau ar gael ym Mharc Gwledig Porthceri a Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.

 

Coeden Goffa

Gall plannu coeden goffa helpu pobl i alaru ac mae'n dynodi lle arbennig ar gyfer ffrindiau a theulu i ymweld, cofio a myfyrio.

 

Mae llawer o leoedd ble gallwch blannu coeden; weithiau mae plannu coed yn rhan o'r rhaglen rheoli tirwedd o fewn y parciau gwledig. Gallwch ond plannu rhywogaethau coed brodorol ac mae gan y parc gwledig rhestr o rywogaethau cymeradwy i'ch helpu i ddewis.

 

Y noddwr sy'n gyfrifol am ddewis a phrynu'r goeden, postyn cymorth ategol a'r strapen. Gall y parc gwledig roi manylion masnachwr cyfrifol lle gellir prynu rhywogaethau coed (tua 6-8 troedfedd o uchder).

 

Mae'r pris am blannu coeden goffa'n cynnwys gwasanaethau warden ar y diwrnod y plannu, a’r holl waith o gynnal y goeden yn y dyfodol gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad profiadol. Os na fydd y goeden yn aeddfedu, caiff un goeden arall ei phlannu yn ei lle heb gost ychwanegol.

 

Pris: £365 (Nid yw hyn yn cynnwys pris y goeden)

 

Rhwng canol Hydref a diwedd mis Chwefror y mae'r tymor plannu coed coffa.

 

  • Plannu Coed

    Bydd aelod profiadol o'r gwasanaeth ceidwaid yn eich helpu i blannu, a bydd fel arfer yn paratoi'r twll cyn i chi gyrraedd.

     

    Bydd y ceidwad hefyd yn rhoi cyngor i chi am y goeden, ac ar ôl hynny mae croeso i chi a'ch teulu plannu'r goeden yn y twll sydd wedi'i baratoi.

     

    Unwaith y bydd y plannu wedi'i gwblhau, rhoddir map i chi i nodi lleoliad y goeden a manylion y dyddiad a rhywogaeth y goeden.

     

    Os caiff eich coeden ei difrodi, ac mae’r goeden yn methu ag aeddfedu oherwydd hynny, bydd y Parc Gwledig yn newid y goeden unwaith heb unrhyw gost ychwanegol.

     

    Yn anffodus, ni cheir codi unrhyw blaciau, ac ni chaniateir plannu blodau. Drwy hynny osgoir tynnu sylw at y goeden nad oes ei eisiau. Os ydych am osod rhai blodau wrth ymyl y goeden ar adegau penodol o'r flwyddyn, mae hyn yn dderbyniol.

 

 

Meinciau

Mae meinciau ar gael mewn lleoliadau lle mae angen seddi ychwanegol neu lle y mae angen eu hailosod.  Mae meinciau a phlaciau ar gael i’w prynu'n uniongyrchol oddi wrth Barc Gwledig Porthceri a Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.  Caiff meinciau eu gosod ar y safle gan y gwasanaeth cefn gwlad.  

 

Mae gan y meinciau ddyluniad traddodiadol ac maen nhw wedi'u gwneud o ddeunyddiau ecogyfeillgar sydd wedi'u hailgylchu. Yn rhan o’r dyluniad mae eu breichiau’n ddu ac mae’r slatiau’n frown.  Gall y meinciau wrthsefyll fandaleiddio, maen nhw wedi’u dylunio’n gadarn a does byth angen eu paentio. Maen nhw’n gwrthsefyll y tywydd ac nid ydynt yn pydru.

 

Darperir hefyd blac (150mm x 50mm) gyda geiriad o’ch dewis, ar ôl i’r Gwasanaeth Cefn Gwlad gytuno arnyn nhw.

 

Manylion y Meinciau

Hyd: 1970mm

Dyfnder: 780mm

Uchder y Sedd: 460mm

Uchder Cyffredinol: 880mm

 

Pris: £1950

 

Placiau

Mae placiau ar gael sy’n mynd ar biler pren sydd wedi'i dorri o binwydden Douglas. Mae’r placiau ar gael i’w prynu'n uniongyrchol oddi wrth Barc Gwledig Porthceri a Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a chaiff eu gosod ar y safle gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad.  

 

Darperir hefyd blac (150mm x 50mm) gyda geiriad o’ch dewis, ar ôl i’r Gwasanaeth Cefn Gwlad gytuno arnyn nhw.

 

Pris: £370

 

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cysegriad neu gofeb yn un o’n Parciau Gwledig, cysylltwch â:

 

Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston

  • 02920 701678

Pharc Gwledig Porthceri

  • 01446 733589

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am cheisiadau am gofeb a gysegru, cysylltwch â C1V.

 

Cynllun Placiau Pier Penarth

Ydych chi am nodi digwyddiad arbennig neu goffáu person annwyl? Gwnewch hynny drwy roi plac pres ag arysgrif ar Bier Penarth.

 

Ceir placiau pres mewn dau faint:

  • 100mm x 12mm (uchafswm o 20 o lythrennau, gan gynnwys bylchau) = £150
  • 100mm x 36mm (uchafswm o 60 lythrennau, gan gynnwys bylchau) = £200

 

Caiff yr holl elw a wneir o Gynllun Placiau Pier Penarth ei ddefnyddio i gynorthwyo â gwaith cynnal a chadw’r Pier. 

 

Nodwch: Mae oedi cyn gosod placiau ar Bier Penarth. Oherwydd ein llwyth gwaith presennol, mae ôl-groniad o blaciau i'w gosod. Ni allwn warantu dyddiad gosod ar gyfer ceisiadau newydd ar hyn o bryd.  Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon unwaith y bydd y sefyllfa wedi'i datrys. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. 

 

I wneud cais, llenwch ffurflen gais plac a'i hanfon atom.

 

 

Anfonwch eich ffurflen wedi ei chwblhau at:

Visible Services

Yr Alpau

Heol Chwarel yr Alpau
Gwenfô
CF5 6AA