Mae rhywogaethau a geir mewn pecynnau hadau masnachol yn aml o darddiad anhysbys a gallant gynnwys rhywogaethau estron gan gynnwys cyltifarau gardd nad ydynt i'w cael yn naturiol yn y DU, heb sôn am Fro Morgannwg.
Ein nod yw cadw elfen wyllt blodau gwyllt gan y gall rhywogaethau estron ddisodli blodau gwyllt brodorol sydd eisoes yn bresennol yn y storfa hadau, gan erydu hynodrwydd ac amrywiad genetig naturiol ein fflora lleol.
Ar ôl dwy neu dair blynedd o reoli trwy dorri a chasglu, os nad yw ardaloedd yn dangos unrhyw arwyddion o amrywiaeth cynyddol o flodau gwyllt, byddwn yn ystyried gwella’r ymylon ffyrdd gan ddefnyddio hadau blodau gwyllt o ffynonellau lleol, gwair gwyrdd neu blanhigion plwg a dyfwyd o hadau o ffynonellau lleol.