Cymryd rhan
Cynllun a gynhelir ar y cyd rhwng 14 awdurdod lleol yn Ne Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yw arolwg pathewod De Cymru.
Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynhyrchu pecyn gwybodaeth am yr arolwg, sy’n darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr arolwg. Yn ogystal, cynhyrchwyd ail becyn arolwg sy’n rhoi cyngor ar sut i drefnu helfa gnau fel rhan o ddigwyddiad ysgol neu gymuned.
Digwyddiad i ysgolion a gynhelir ym Mharc Gwledig Porthceri yw cynllun creu lle i fywyd gwyllt. Cynhelir digwyddiadau hyfforddiant eraill ledled De Cymru hefyd.
- South Wales Dormouse Survey