Project Draeniau Mwy Diogel
Mae pwll sy’n eiddo i Awdurdod Lleol ym Mro Morgannwg yn gartref i’r boblogaeth fwyaf o fadfallod cribog mawr yn Ne Cymru.
Mae’r madfallod angen cynefin daearol i hela am ysglyfaeth ddi-asgwrn-cefn ac i gysgodi yn ystod adegau oer a sych iawn o’r flwyddyn. I gael mynediad at y safleoedd hyn, roedd angen i’r madfallod groesi’r ffordd ger y pwll lle y byddent heb yn wybod yn disgyn i’r draeniau a oedd wedi’u gosod yn dynn yn erbyn y cwrb.
Adroddodd Stephen Lowe, Syrfëwr Gwirfoddol o Fadfallod Cribog Mawr, bod cannoedd o fadfallod yn cael eu dal o dan y draeniau bob blwyddyn lle nad oeddent yn gallu dianc. Aeth y tîm arolygu pyllau ati i ymgymryd â rhaglen achub yn syth er mwyn canfod graddfa’r broblem.
Yn 2005, aeth Adran Priffyrdd a Thîm Ecoleg y Cyngor ati i weithio i symud y draeniau oddi wrth y cwrb: gan adael sil bach i’r madfallod gerdded ar ei hyd. Derbyniodd y cynllun arian cyfatebol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae’r addasiadau bellach wedi’u cwblhau ac mae canlyniadau’r arolwg o 2006 yn awgrymu bod y newidiadau i’r cwrb wedi bod yn llwyddiant: canfuwyd dim ond 65 o fadfallod yn y draeniau o’i gymharu â 318 cyn i’r gwaith ddechrau.