Cynllun Cwm Alun
Yng Nghwm Alun ym Mro Morgannwg y ceir y nythfa olaf yng Nghymru o’r brith brown, yn ôl pob tebyg. Ceir dwy rywogaeth arall o’r fath yno hefyd, sef y brith gwyrdd tywyll a’r brith perlog bach.
Yn 1999 roedd niferoedd y brith brown wedi dirywio i isafswm peryglus.
Yn 2003, gwnaeth mudiad Butterfly Conservation gais am arian gan Gronfa Cynaliadwyedd Trethi Cyfanswm ar ran Partneriaeth Bioamrywiaeth y Fro er mwyn gweithredu cynllun rheoli ac adfer cynefin.
Gyda chymorth cynllun gan Arfordir Treftadaeth Morgannwg a thîm ymroddgar o wirfoddolwyr, bu gwaith clirio prysgwydd a choedlannu’n digwydd pob gaeaf ers 2003 i geisio adfer cynefin fridio.
Ers i’r gwaith ddechrau, mae niferoedd y brith brown wedi codi pob blwyddyn, ac mae wedi ymddangos yn yr holl barthau sy’n cael eu rheoli. Ym mis Mai 2006 cynhaliwyd asesiad o ansawdd y cynefin er mwyn creu cymhariaeth ‘cynt ac wedyn’, a dangosodd hwn fod:
- Nifer y fioledau wedi cynyddu
- Sbarion y rhedyn ac uchder y glaswellt a’r mwsogl wedi gwella
- Y brith brown a’r brith gwyrdd tywyll yn bridio ar y safle, yn sgil dod o hyd i lindys
Mae cyfrifiadau trawslun blynyddol o bili-palod aeddfed wedi dangos bod lefel y niferoedd wedi gwella’n aruthrol.