Gwelyau Cyrs
Ar hyd ymylon llynnoedd a phyllau dŵr Cosmeston, mae cynefin gwerthfawr gwlypdiroedd a gwelyau cyrs, sy’n lloches i bob math o fywyd gwyllt.
Mae ymylon y llyn yn fan gwych i fywyd gwyllt, ac maent yn gartref i blanhigion unigryw sy’n hoffi tyfu mewn mannau gwlyb, corsiog, megis cynffon y gath, gellesgen felen y gerddi, gwyarllys porffor a blaen y gwayw mwyaf.
Gellir cyrraedd gwelyau cyrs Cosmeston drwy groesi rhodfa bren, sy’n golygu y gall ymwelwyr weld y planhigion a’r bywyd gwyllt heb beri niwed i’r cynefin bregus. Ceisiwch gael cip ar regen y dŵr swil yn rhedeg drwy’r cyrs wrth i chi gerdded ar hyd y rhodfa.
Mae’r gwlypdir, y gwelyau cyrs trwchus ac ymylon y llyn hefyd yn gynefin ardderchog i 16 rhywogaeth wahanol o was y neidr a’r fursen, megis gwas y neidr yr ymerawdwr a’r hebogwr ymfudol, a’r fursen las gyffredin.
Mae’r pryfed rhyfeddol hyn, a oedd yn fyw yng nghyfnod y deinosoriaid, yn dechrau eu bywyd fel larfa tanddwr cyn codi i’r wyneb yn oedolion, ac ehedeg, gwibio a hela drwy’r gwelyau cyrs ac ar hyd ymyl y dŵr i ddal eu hysglyfaeth.
Ymwelydd gaeafol â Llynnoedd Cosmeston o ardal East Anglia yw aderyn y bwn. Mae’r aderyn prin hwn yn ffafrio gorchudd trwchus y gwelyau cyrs, ac anaml iawn y caiff ei weld oherwydd cuddliw gwych ei blu brown. Mae rhywogaethau eraill yn hoffi’r cynefin hwn hefyd, gan gynnwys telor yr hesg a bras y cyrs, ynghyd â’r hwyaid a’r elyrch sy’n adeiladu eu nythod yng nghysgod y gwelyau cyrs.
Er mwyn cynnal y cynefin gwerthfawr hwn, mae Gwasanaeth y Ceidwaid yn tynnu llystyfiant prysgwydd oddi yno ac yn rheoli’r gwelyau cyrs mewn cylchdro er mwyn denu cynifer o rywogaethau â phosib. Pwy a ŵyr – efallai fyddwn ni’n denu llygod y dŵr prin i Cosmeston yn y dyfodol agos.