Cynllun Bwydo Adar
Mae’r cynllun hwn yn darparu blychau nythu a gorsafoedd bwydo arbennig dros y gaeaf mewn mannal lle mae ffermwyr yn tyfu cnydau sy’n cynhyrchu llawer o hadau.
Yn ystod gwanwyn 2006 plannwyd cnwd o rawn a dyfodd yn dda, gan ddarparu ffynhonnell bwysig o hadau i amrywiaeth o rywogaethau ffermdir, yn cynnwys golfan y coed.
Mae rhywogaethau eraill wedi manteisio ar y cynllun hwn hefyd, yn cynnwys y llinos, y betrysen lwyd, melyn yr eithin, bras y gors a’r ehedydd.
Erbyn diwedd y gaeaf, roedd y safle mor boblogaidd gyda’r adar lleol nes bu’n rhaid prynu hadau ychwanegol i’w bwydo.
Cynllun dan arweiniad Clwb Adar Morgannwg (gwefan Saesneg) oedd hwn, mewn partneriaeth â’r British Trust for Ornithology, Cyfoeth Naturiol Cymru, Earth Watch a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Bo Morgannwg. Ni fyddai’r wedi bod yn bosib i weithredu’r cynllun heb gefnogaeth frwd llawer o ffermwyr lleol.