Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Ceir dros 20 hectar o goetiroedd llydanddail ym mharc Cosmeston. Mae’r prif lwybr graean yn rhedeg drwy ganol coedwig Cogan, lle mae llawer o fathau o goed i’w darganfod wrth grwydro oddi ar y llwybr. Yn y coetir yn Cosmeston, mae sawl maeth o’r coed yn nodweddiadol o goetiroedd llydanddail eraill a geir y Deyrnas Unedig – y dderwen, yr onnen, y llwyfen a’r ddraenen wen yw’r rhan fwyaf ohonynt. Mewn sawl man, bydd iorwg wedi tyfu’n drwch dros y coed a’r llawr fel ei gilydd.
Ar noswaith o haf yn Cosmeston, chwiliwch am siapiau ystlumod hela megis ‘pipistrelle’wrth iddynt hedeg drwy’r coetiroedd a dros y llynnoedd yn chwilio am fwyd blasus megis gwybed mân a mwy. Mewn rhai rhannau o’r parc, gwelir nifer fawr o’r mamaliaid sionc hyn yn bwyta gyda’i gilydd wrth i’r golau bylu. Mae cynllun rheoli coetiroedd ym Mro Morgannwg yn cynnwys agor a chlirio adrannau bach ohonynt i adael i olau’r haul eu cyrraedd. O ganlyniad, mae cyfle i’r planhigion llawr egino a blodeuo.
Yn 2019 roedd Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn llwyddiannus o ran ennill cyllid gan Network Rail trwy’r Greater West Programme; cynllun bioamrywiaeth sy’n cefnogi darparu projectau cynefin, plannu a gwella ar dir trydydd parti. Trwy’r cyllid grant adeiladwyd estyniad dau hectar ar ymyl deheuol Coedlannau Cogan. Plannwyd 1350 o goed yn cynnwys cymysgedd o goed ffrwythau. Mae nifer o fanteision cymdeithasol, amgylcheddol a iechyd a lles i blannu coed ac mae’n cynnig nodwedd ychwanegol i’r Parc Gwledig.