Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Canolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg ar agor i grwpiau drwy apwyntiad yn unig.
Os hoffech ymweld â’r ganolfan cysylltwch â ni i drefnu.
Gallwch ddarllen am ein harfordir, ei daeareg, hanes Parc Dwnrhefn a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n unigryw i’r Arfordir Treftadaeth yn ein gorsafoedd gwybodaeth rhyngweithiol.
Mae dyfeisiau tabled yn cynnig syniadau ar gyfer diwrnodau i’r teulu, a gall plant eu defnyddio i chwarae ‘Wrecker’s Run’, gêm a seiliwyd ar hanes drwgweithredoedd Walter Vaughn, drylliwr llongau lleol gynt. Mae’r dyfeisiau yn dod â hanes yn fyw drwy ddefnydd apiau realiti estynedig sy’n dangos sut byddai safleoedd hanesyddol wedi edrych yn eu dydd.
Gellir llogi ein neuadd fawr ar gyfer digwyddiadau ffurfiol, cyfarfodydd, clybiau a phartïon. Mae cyfraddau masnachol a chymunedol yn daladwy.
I logi’r neuadd, cysylltwch â:
Canolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Parc Dwnrhefn
Southerndown
Cyngor Bro Morgannwg
CF32 0RP