1886-1970
Blynyddoedd y Chwarel
Y chwareli hyn oedd ffynhonnell y calchfaen ar gyfer y gwaith sment mawr a safai tan 1970 ar safle ystâd dai bresennol Cosmeston. W Li Morcom oedd berchen ar y safle o 1886 i 1892 at ddibenion cloddio’r calchfaen i gynhyrchu sment. Ym 1892, gosodwyd y tir ar brydles i South Wales Portland Cement and Lime Company (a’i prynodd yn ddiweddarach) gan Ystâd Bute ac fe gynhyrchodd y cwmni Sment yma tan 1911. O 1911 tan iddo gau ym 1969, BPCM (Blue Circle) oedd perchnogion y gwaith sment. Dechreuwyd tynnu’r chwarel a ddaeth yn llyn y dwyrain yn y 1920au, ond fe’i hehangwyd pan agorwyd y chwarel a ddaeth yn llyn y gorllewin o ddiwedd y 1940au.
Roedd gan y chwarel ei reilffordd ei hun i fynd â'r garreg galch i’r gwaith sment gerllaw. Cludwyd y calchfaen draw i’r gwaith gan ddefnyddio locomotifau rheilffordd fain. Roedd y rheilffordd yn croesi’r ffordd ger y fynedfa i’r maes parcio heddiw.
Cyrhaeddodd cynhyrchiant y safle ei anterth ym 1962, pan gynhyrchwyd 175,000 tunnell o sment.
Yn y dechrau fe ddefnyddiwyd locomotifau stêm gyda’r enwau Marjorie’, ‘Annie’ a ‘Doris’ a enwyd ar ôl gwraig a dwy ferch y perchennog Walter Cooper. O 1951 ymlaen, defnyddiwyd peiriannau disel newydd Fowler. Wedi i’r chwarel gau, dad-gomisiynwyd un o’r peiriannau tra cafodd y ddau beiriant arall eu hailwampio ar gyfer y cynllun cnau daear yn Affrica ond chawson nhw fyth eu hanfon oherwydd yr aeth y cwmni cnau daear i’r gwellt. Arweiniodd hyn at un peiriant i gael ei werthu i reilffordd ysgafn y Trallwng a Llanfair tra gwerthwyd y llall i’r West Highland Railway ym 1968. Erbyn heddiw mae’r ddau beiriant wedi dod yn ôl at ei gilydd oherwydd y prynodd Whipsnade Safari Park nhw (ym 1972 a 1975) a’u hail enwi yn Victor a Hector.
Defnyddiwyd eu brand enwog o sment ‘Dragon’ i gynhyrchu llawer o’r cerrig palmant a osodwyd ym Mhenarth. Caeodd y gwaith am y tro olaf ym mis Tachwedd 1969. Dywedodd Blue Circle nad oedd yn bosib uwchraddio’r hen waith i gynyddu cynhyrchiant ymhellach, nac ymestyn y chwareli, a gaewyd ym mis Mehefin 1970. Arweiniodd rhoi terfyn ar y cynhyrchu at gau’r llinell reilffordd o’r gwaith sment i Benarth ac sydd erbyn hyn yn llwybr cerdded poblogaidd.
Gadawodd y cwmni’r safle ym 1970. Erbyn heddiw diflannodd y gwaith, ac yn ei le mae tai a’r rheilffordd bellach yn ddim mwy na llwybr. Fodd bynnag, mae rhywfaint o bethau ar ôl hyd y dydd heddiw i’n hatgoffa o flynyddoedd y gwaith chwarel. Ar Ffordd Larnog mae swyddfa’r ffatri yn dal i sefyll ac erbyn hyn yn dŷ bwyta, ac roedd perchennog y gwaith Sment rhwng 1892 – 1911 yn byw yn “The Elms” gyda phedwar “Bwthyn Clwm” rhwng The Elms ac adeilad y swyddfa - sydd i’w gweld hyd heddiw.