1978
Er 1978, bu Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a’r Pentref Canoloesol yn perthyn i Gyngor Bro Morgannwg. Ceir yr hanes mewn mwy o fanylder yn y ddogfen pdf hon: History of Cosmeston Medieval Village (Saesneg yn unig).
Yn ystod gwaith cloddio datblygu Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 1978 a gyflawnwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, datgelwyd olion adeiladau o’r drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Esgorodd hyn ar gomisiynu cynllun ymchwil tymor hir ar y safle.
Datgelodd yr Ymddiriedolaeth olion cymuned a oedd dros 600 mlwydd oed, ac felly y dechreuodd cynllun archeolegol unigryw i adfer pentref canoloesol Cosmeston. Prif arwyddocâd y pentref canoloesol yw ei raddfa, gan fod y rhan fwyaf o ddarganfyddiadau tebyg wedi bod yn dipyn llai o ran maint a chwmpas.
Yn Cosmeston, mae’r archeolegwyr wedi cael cyfle i gloddio dros gyfnod hir. Yn sgil y cloddfeydd hyn, cynhaliwyd adferiad pentref canoloesol wrth raddfa ar ei safle a’i seiliau gwreiddiol. Mae’r cloddfeydd wedi eu dadansoddi a’u cyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg er mwyn darparu darlun cywir o’r dreflan a ddarganfuwyd yn Cosmeston.
Yn ystod y gwaith cloddio manwl, datgelwyd gweddillion seiliau a gladdwyd ers canrifoedd, lle bu unwaith cymuned lewyrchus. Yn ogystal, daethpwyd o hyd i ddeunyddiau hynod ddiddorol, gan gynnwys cyllell fetel, crochenwaith canoloesol, esgyrn anifeiliaid a dwy garreg falu cynhanesyddol.
Roedd yr ystâd yn rhan o’r tiroedd maenorol oedd yn cyflenwi nifer o bethau moethus i’r arglwydd lleol. Ar dir Cosmeston, safai perllan, llynnoedd pysgod a cholomendy. Mae olion y colomendy wedi eu lleoli yn y cae i’r gorllewin o’r pentref.