Yn Llyfrgell y Barri ceir y dewis mwyaf o lyfrau yn y Fro, ynghyd â chasgliad amrywiol o DVDs. Gall aelodau ddychwelyd a benthyg eu llyfrau drwy ddefnyddio’r adnodd hunanwasanaeth.
Mae prif lyfrgell ymchwil a chasgliadau o astudiaethau lleol ar lawr cyntaf y llyfrgell. Yn ogystal, mae yma:
- ystafell technoleg gwybodaeth
- parth plant a phobl ifanc
- ystafell gymunedol
- mynediad am ddim i gyfrifiadur a’r rhyngrwyd ac mae adnoddau sganio ac argraffu ar gael
- cyswllt diwifr am ddim
- peiriant llungopïo
- gwasanaeth ffacs
- papurau newydd a chylchgronau
- ystafelloedd cyfarfod i’w llogi
Llogi Ystafell
Mae Ystafell Philip John, yr Ystafell Gymunedol Fach, yr ystafell gyfrifiaduron a’r ystafell fwrdd ar gael i’w llogi. Am wybodaeth bellach, ewch i’r dudalen prisiau a ffioedd.
Hygyrchedd: mae’r llyfrgell ar ddau lawr. Mae yma ddrysau mynediad awtomatig, lifft ac adnoddau toiled hygyrch. Ceir cylched clyw wrth bob cownter. Ymhlith yr adnoddau eraill mae Zoomtext ar nifer o’r cyfrifiaduron, cyfrifiadur wedi’i addasu, chwyddwydr Smartview a sganiwr sy’n chwarae’r gair printiedig yn ôl.
Rhif ffôn: 01446 422425 (ymholiadau cyffredinol) / 01446 422423 (ymholiadau ymchwil)
Ffacs: 01446 709377
E-bost: barrylibrary@valeofglamorgan.gov.uk
Cyfarwyddiadau a map
Oriau agor
-
|
Oriau Dydd |
Oriau Open+ |
Dydd Llun |
9.30am - 7.00pm
|
Dim ar gael ar hyn o bryd |
Dydd Mawrth |
9.30am - 5.30pm
|
Dim ar gael ar hyn o bryd |
Dydd Mercher |
9.30am - 5.30pm
|
Dim ar gael ar hyn o bryd |
Dydd Iau |
9.30am - 5.30pm
|
Dim ar gael ar hyn o bryd |
Dydd Gwener |
9.30am - 5.30pm
|
Dim ar gael ar hyn o bryd |
Dydd Sadwrn |
9.30am - 4.00pm
|
Dim ar gael ar hyn o bryd |