Gwirfoddolwyr
Dim ond â chymorth tîm brwdfrydig a gweithgar o wirfoddolwyr y gall ein Gwasanaeth Llyfrgell Cartref barhau i fod, ac mae’r tîm yn gweithio o’u llyfrgell leol ac yn cludo llyfrau i fenthycwyr cartref yn eu hardal.
Gall unrhyw oedolyn wneud cais i fod yn wirfoddolwr gyda Llyfrgelloedd y Fro. Yr hyn sydd ei angen arnoch ydy: personoliaeth gyfeillgar, diddordeb mewn llyfrau a darllen, profiad o gydweithio â phobl a dealltwriaeth o anghenion pobl mewn oed a phobl ag anabledd. Bydd hefyd arnoch chi angen trwydded yrru ddilys a mynediad i gar sydd wedi ei yswirio a chanddo dystysgrif MOT.
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei gyfweld a bydd gofyn iddynt ddarparu geirda. Caiff pawb eu gwirio gan yr heddlu (DBS) a byddan nhw’n derbyn cerdyn adnabod â llun arno. Telir costau teithio ar y gyfradd safonol.