Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Nid yw’r cronfeydd data yma ar gael i holl ddefnyddwyr y rhyngrwyd, ond fel aelod o lyfrgell Bro Morgannwg, gallwch ddefnyddio’r rhif ar eich cerdyn llyfrgell i bori rhai o’r adnoddau mwyaf dibynadwy, manwl a difyr sydd ar gael ar-lein. Gan mai Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o’r adnoddau, dim ond y manylion a gyfieithwyd. Nodir argaeledd gwasanaethau Cymraeg pan fo’n berthnasol.
Mae’r cronfeydd data dan danysgrifiad isod ar gael ar gyfrifiaduron y llyfrgelloedd yn unig drwy’r dolenni isod:
Menter newydd sy’n cynnig mynediad i ystod eang o erthyglau ac ymchwil academaidd a gedwir mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ledled y DU.
Access to Research
Darganfod hanes eich teulu a chreu achres drwy chwilio cofnodion genedigaethau helaeth, data cyfrifiadau, ysgrifau coffa a mwy.
Ancestry
Y llyfrgell ymchwil ar-lein academaidd fwyaf. Mynediad ar flaenau eich bysedd i ysgolheictod awdurdodol a chyfredol ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau.
Blackwell Reference Online
Gwefan hel achau sy’n hawdd i’w chwilio er mwyn olrhain hanes eich teulu. Ceir yma gofnodion genedigaethau helaeth, data cyfrifiadau, ysgrifau coffa a mwy. Yn cynnwys mynediad i gyfrifiad Cymru a Lloegr 1921.
Find My Past
Mynediad gartref, ar y ffordd neu yn y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw rhif eich cerdyn llyfrgell.
Un o’r adnoddau gwybodaeth mwyaf cyflawn a chywir yn y byd. Porwch gannoedd o filoedd o erthyglau, bywgraffiadau, fideos, delweddau a gwefannau gyda’r gwyddoniadur ar-lein.
Britannica
Gwasanaeth gwybodaeth a chronfa ddata ar-lein ar weithgareddau a sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol Ewrop, a materion o bwys i ymchwilwyr, trigolion a rhanddeiliaid Ewropeaidd.
European Sources Online
Cronfa ddata o wyddoniaduron, almanaciau a ffynonellau ymchwil arbenigol.
Gale Virtual Reference Library
Adnodd astudio ar-lein i ymgeiswyr prawf Bywyd yn y DU neu brawf dinasyddiaeth Brydeinig.
GoCitizen website
Wrth fynd at adnoddau Oxfored a Who’s Who o bell, e.e. o'ch teclyn eich hun neu o gartref, bydd angen i chi deipio'r llythrennau "vg" ac yna rif eich cerdyn llyfrgell, e.e. vg30191234.
Mae VSI ar-lein yn ffordd wych o ddysgu llawer am bwnc newydd yn gyflym. Gallwch chwilio drwy nifer o deitlau ar yr un pryd, ystyried opsiynau dysgu, cychwyn ar bwnc newydd neu adolygu pwnc penodol.
Mae’r pynciau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys Prydain yn yr 20fed Ganrif, Gwleidyddiaeth Prydain, Cyffuriau, Celf Gyfoes, Hanes, Rheoli, Mathemateg, Maeth, Y Ddaear, y Planedau a chasgliad llenyddiaeth.
VSI Online
Ystyrir yr Oxford English Dictionary (OED) yn helaeth fel y prif awdurdod ar yr iaith Saesneg. Does dim canllaw gwell ar gael i ystyr, hanes ac ynganiad 600,000 o eiriau Saesneg - o'r gorffennol a'r presennol o bedwar ban byd.
OED Online
Yn cynnwys canllawiau ymchwil awdurdodol ac unigryw i Lenyddiaeth Fictoraidd Brydeinig a Gwyddelig.
Oxford Bibliographies
Mae OLDO yn rhoi argymhellion gan arbenigwyr ynghylch gramadeg, sillafu, a defnydd geiriau. Mae ynddo hefyd ganllawiau i’r iaith ysgrifenedig a geiriaduron arbenigol ar gyfer awduron, golygyddion prawfddarllenwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Gellir cael mynediad, drwyddo, at eiriaduron dwyieithog mewn Arabeg, Tsieineeg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Eidaleg, Almaeneg a Rwsieg. Mae ynddo hefyd ddeunyddiau dysgu iaith unigryw.
OLDO English
OLDO Bilingual Dictionaries
Mynediad i dros 100 o gyfeirlyfrau gan wasg Oxford University Press. I gyrraedd ORO gartref, ewch i’r wefan a theipio’r llythrennau ‘vg’, ac yna’r rhifau a welir o dan y bar-cod ar eich cerdyn llyfrgell.
ORO
Ceir yma dros 33,000 o fywgraffidau cryno sy’n cael eu diweddaru’n gyson, o unigolion byw, nodedig a dylanwadol o bob cefndir.
Who's Who
Y gwyddoniadur celf ysgolheigaidd mwyaf blaenllaw, sy’n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd ac yn cwmpasu celf a phensaernïaeth fyd-eang o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw.
Mae’n cynnwys erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid a gyfrannwyd gan bron 7,000 o ysgolheigion o bob cwr o'r byd, ynghyd â delweddau, llyfryddiaethau, a chysylltiadau ag adnoddau ychwanegol.
Grove Art Online
Yr adnodd gorau ar gyfer ymchwil gerddoriaeth gyda dros 52,000 o erthyglau wedi'u hysgrifennu gan bron 9,000 o ysgolheigion yn olrhain hanes, theori a diwylliannau cerddoriaeth amrywiol ledled y byd.
Yn seiliedig ar waith a gyhoeddwyd gyntaf ym 1879 ac a ddiweddarwyd yn aml, mae Grove wedi cael ei gyhoeddi'n barhaus ers dros ganrif ac mae bellach yn cyhoeddi cannoedd o erthyglau newydd a diwygiadau i erthyglau bob blwyddyn.
Grove Music Online
Wedi'i ysgrifennu gan arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd penodol, mae pob cyfrol yng nghyfres enwog Oxford, What Everyone Needs to Know®, yn cynnig cynlyfr cytbwys ac awdurdodol am faterion cyfoes cymhleth a gwledydd. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Polisïau Amgylcheddol, Hanes y Byd, Gwyddorau a Mathemateg, a Chrefydd ac Ysbrydolrwydd. Mae'r fformat holi ac ateb cryno yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr coleg, gweithwyr proffesiynol a phobl chwilfrydig fel ei gilydd.
What Everyone Needs to Know
Cofnod cenedlaethol o’r gwŷr a’r gwragedd sydd wedi chwarae rôl ganolog yn hanes a diwylliant Prydain, ledled y byd, yw'r ODNB, ac mae'n cynnwys gwybodaeth o Oes y Rhufeiniaid tan yr 21ain ganrif. Mae’n cynnwys bywgraffiadau cryno, wedi ei diweddaru, wedi eu hysgrifennu gan awduron sy’n arbenigo yn eu maes. Mae golygyddion o Brifysgol Rhydychen yn goruchwylio cofnodion y Geiriadur, ac fe’i cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen.
ODNB
Archif penigamp o newyddiaduraeth cerddoriaeth gyfoes. Ceir yma dros 30,000 o erthyglau ar artistiaid o Aaliyah i ZZ Top ym mhob maes o roc i hip-hop gan newyddiadurwyr cerdd gorau’r hanner canrif diwethaf. Ar eich dyfais eich hun, teipiwch y llythrennau ‘vg’, ac yna’r rhif aelodaeth a welir ar eich cerdyn llyfrgell.
Rock's Back Pages
Efelychiad hynod realistig o brawf gyrru theori’r DU yng nghategori pob cerbyd. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim i holl aelodau llyfrgelloedd Bro Morgannwg.
Theory Test Pro
Mae Llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cynnig mynediad at rifynnau hanesyddol o bapurau newyddion cenedlaethol a lleol.
Archwiliwch safbwyntiau amrywiol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am bynciau, pobl a digwyddiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Ymchwiliwch i feysydd fel busnes, iechyd, addysg, yr amgylchedd, materion gwleidyddol, a chymdeithasol a mwy. Yn cynnwys amrywiaeth eang o ffynonellau newyddion creadadwy, wedi'u fetio o fwy na 200 o wledydd, gan gynnwys fersiynau testun llawn o fwy na 50 o ffynonellau Cymreig a rhifynnau delwedd lliw llawn o The Times a The Western Mail! Ar gael o bell 24/7 ar unrhyw ddyfais gyda'ch cerdyn llyfrgell.
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur yn y llyfrgell gallwch fynd i wefan Newsbank.
I gyrchu UK Newsbank o bell, e.e. o gartref, ewch i wefan Newsbank a rhowch rif eich cerdyn llyfrgell.
Mae Archif Digidol y Times yn eich galluogi i weld tudalennau wedi'u sganio o'r Times o 1785 hyd at y presennol bron.
I gael mynediad i wefan archif The Times gartref, bydd arnoch angen rhif eich cerdyn llyfrgell.
Mae UKPressOnline yn caniatáu i chi ddarllen a lawrlwytho tudalennau a rhifynnau chwiliadwy fel y’u cyhoeddwyd o bapurau’r Daily Express (o 1900 ymlaen). Mae hefyd yn cynnwys y Sunday Express a’r Daily Star (2000 hyd heddiw), a blynyddoedd amrywiol o’r Church Times, The Watchman, Daily Worker a’r Morning Star. Yn ogystal, ceir yma archif o’r Ail Ryfel Byd sy’n cynnwys rhifynnau nifer o bapurau rhwng 1933 ac 1945.
Mae Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain, sy’n cynnig mynediad ar-lein i filiynau o dudalennau o bapurau newydd o wledydd Prydain ac Iwerddon o 1703-2003, yn adnodd gwych i bawb sydd â diddordeb mewn hanes, ac i haneswyr teuluol a lleol yn benodol.
Mae papurau newydd o gasgliad enfawr Llyfrgell Prydain yn cael eu sganio bob dydd i gynhyrchu copïau digidol y gellir eu chwilio o unrhyw le yn y byd. Gall defnyddwyr llyfrgell chwilio drwy gannoedd o filiynau o erthyglau yn ôl gair allweddol, enw, lleoliad, dyddiad neu deitl a gweld y canlyniadau'n ymddangos o flaen eu llygaid.
Tra eich bod wedi mewngofnodi i gyfrifiadur yn un o lyfrgelloedd Bro Morgannwg, bydd gennych fynediad digyfyngiad i Archif Papurau Newydd Gwledydd Prydain. I weld tudalennau o’r archif, bydd angen i chi gofrestru (am ddim) a mewngofnodi i’r gwasanaeth. Gallwch gadw erthyglau rydych yn eu gweld ar eich tudalen Wedi Cadw a gallwch hefyd greu ffolderi ar gyfer erthyglau gwahanol a’u categoreiddio sut bynnag. Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau i unrhyw rai o’r erthyglau rydych wedi eu cadw.
Ar gael ar cyfrifiaduron y llyfrgell yn unig.
Adnodd am ddim gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yw Papurau Newydd Cymru Ar-lein lle gallwch ddarganfod milynau o erthyglau o gasgliad cynhwysfawr y llyfrgell o bapurau newydd hanesyddol.