Cost of Living Support Icon

Gerddi'r Cnap

Lakeside, Y Cnap, Y Barri, CF62 6YU

 

Gweld y parc hon ar fap 

 Knap Gardens

Mae Gerddi’r Cnap yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn y Barri drwy gydol y flwyddyn. Maent yn fan braf i gysgodi rhag gwynt y môr ac i fwynhau’r borderi llawn blodau, yr ardd isel a’r ffynnon.

 

Boed haf neu aeaf, mae Gerddi’r Cnap yn lle braf i deuluoedd a pherchnogion cŵn fynd am dro.  

 

Canolbwynt y gerddi yw’r llyn â’i hwyaid a’i elyrch, ac ambell long modur bach a reolir o bell yn ystod misoedd yr haf.   

 

Cynlluniwyd a datblygwyd yr ardal o amgylch y Cnap o dan ddylanwad mudiad y Dinasoedd Gardd. Ceir yma dai braf o’r 1920au, parc mawr arall a chasgliad o siopau bach heb fod yn bell i ffwrdd. 

 

Nodwch: Mae'n rhaid i gŵn fod ar dennyn gan fod elyrch a hwyaid yn y parc.

 

  • Alarch, Hwyiaid a Gwyddau
  • Gwasnaeth Bws Lleol
  • Caffe
  • Fila Rhufeinig
  • Golygfeydd dros y Sianel
  • Caiff cŵn eu gwahardd o'r traeth yn yr haf

  • Maes Parcio Teras y Cnap
  • Yn agos i Maes Awur Rhyngwladol Caerdydd
  • Amrywiaeth o forderi a blodau gwyllt 
  • Traeth Cerrig
  • Bwrdd Sglefrio, Syrffio a Hwylfyrddio
  • Toiledau ym Maes Parcio Teras y Cnap 
  • Ffordd Arfordir Cymru
  • Mynediad Cadair Olwyn

Trafnidiaeth


Trafnidiaeth gyhoeddus - gwasanaethau bws drwy The Parade, 10m a Broad Street, sef 500m o'r Parc. 

 

Mae'r cyswllt rheilffordd agosaf yw o orsaf Tref y Barri, tua 500m i ffwrdd. 

 

Mae maes parcio am ddim yn y Knap Car Terrace 100m i ffwrdd. 

 

Cynlluniwch eich taith ar Traveline Cymru: 

 

Traveline Cymru