Cost of Living Support Icon

Parc Romilly

Romilly Park Road, Y Barri, CF62 6RN

 

Gweld Parc Romilly ar fap 

   Romilly Park panaroma

 

Mae Parc Romilly'n barc cofrestredig gradd II CADW. Mae ynddo lain bowlio, cyrtiau tenis, ardal chwarae plant, arddangosiadau blodau tymhorol ac ardal agored fawr ar gyfer gweithgareddau hamdden.

 

Yn wreiddiol, adeiladwyd y parc ar dir oedd yn perthyn i'r teulu Romilly yn 1898 ac fe'i cwblhawyd yn 1911. Mae mwyafrif y fframwaith a'r nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys creigardd a gardd ddŵr ddeniadol, wedi goroesi hyd heddiw. Yn 1920, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y parc ger Cylch yr Orsedd, sy'n sefyll o hyd.

 

 

Gwybodaeth gyffredinol

Oriau agor: 8.00am tan y gwyll

Uchafbwyntiau: ardal chwarae plant, ardal picnic, cyrtiau tenis (yn  rhad ac am ddim i'w defnyddio) a llain bowlio

Tai bach: ar agor dim ond yn ystod gwyliau'r haf

  
  • Caffis gerllaw
  • Parc CADW gradd II
  • Bwyty 5 munud i ffwrdd
  • Caniateir cŵn
  • Arddangosiadau blodau tymhorol 
  • Toiledau
  • Gorsaf trên y Barri
  • Ardal goediog 

 

Cyfarwyddiadau a Thrafnidiaeth


Car: M4 at Gyffordd 33, A4232 i Groes Cwrlwys, A4050 i'r Barri.Dilynwch yr arwyddion twristiaeth frown ar gyfer Ynys y Barri, yna "The Knap".


Bws: Rhif 95 a 96. Stop agosaf Hotel Barri, Broad Street - 500m o'r parc. Cysylltwch â Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 ar gyfer llwybrau lleol. 

 

Trên: Mae'r orsaf agosaf yw Gorsaf Y Barri, 500m o Barc Romilly. Ffoniwch 08457 484950 i gael gwybodaeth rheilffyrdd

 

Traveline Cymru