Cost of Living Support Icon

Defnyddio Hawliau Tramwy

Mae tua 586km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ym Mro Morgannwg. Mae eu statws yn disgrifio’r modd y gall aelodau’r cyhoedd eu defnyddio.

 

Llwybrau gwledig ydy’r rhain yn bennaf a chaiff y llwybrau eu marcio yng nghefn gwlad yn unol â’u statws. 

 

Llwybrau cerdded (525km)

Footpath


 

Llwybrau ceffylau (39km)

Bridleway


 Cilffyrdd Cyfyngedig (22km)

Restricted Byway

 

Gellir dod o hyd i rai mathau eraill o gyferbwyntiau hefyd. Gan amlaf, maent naill ai’n

  • Saethau gwyn, sy’n dynodi nad yw’n llwybr swyddogol, ond gellir ei ddefnyddio ar ôl cael caniatâd y sawl sy’n berchen ar y tir

  • Yn ddyn ar fryniau brown, sy’n dynodi mynediad i’r tir mynediad agored

  • Neu’n llwybrau sy’n cael eu hyrwyddo, sy’n dynodi llwybrau pellter hir, teithiau cylchol neu lwybrau y cyhoeddwyd llyfrynnau ar eu cyfer.

 

Mae hawl gan bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu bramiau ddefnyddio’r holl fathau o lwybrau uchod, er na fydd natur pob llwybr yn addas iddynt.

Cerdded y Ci

Mae mynd â’r ci am dro yn un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar hawliau tramwy cyhoeddus. Er bod hawl gan berchenogion fynd â’u cŵn am dro ar hyd y llwybrau hyn, dydy hi ddim yn ofynnol i’r bobl sy’n berchen ar y tir addasu gatiau a chamfeydd i annog cŵn. Felly mae’n ddoeth gwirio llwybrau newydd yn gyntaf i sicrhau eu bod yn addas i fynd am dro gyda’ch ci. 

 Lady walking dog

Does dim rhaid i gŵn fod ar dennyn, ond dylid eu cadw dan reolaeth effeithiol ar bob adeg. Pan fydd llwybrau’n croesi caeau neu dir preifat arall, ni ddylid caniatáu i gŵn grwydro oddi ar y llwybr, yn enwedig o amgylch da byw. 

 

Gall baw cŵn achosi niwed difrifol i dda byw, amaethyddiaeth ac iechyd pobl hefyd, yn ogystal â bod yn niwsans i eraill sy’n defnyddio’r llwybrau. Dylai defnyddwyr glirio ar ôl eu cŵn ar bob adeg a chael gwared ar y baw mewn modd cyfrifol. Gellir cael cyngor clir a chryno ar y gweithgaredd hwn yn y Cod Cerdded Cŵn

 

Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus DefMapLlantwitMajor

Dangosir llwybrau a dynodiadau'r llwybrau yn ein Sir ar Fap Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac fe'u

 

 disgrifir yn y Datganiad cysylltiedig. Mae gan y ddogfen ddyddiad perthnasol o 15 Mawrth 2016 ac mae'n rhoi cipolwg o’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ar y diwrnod hwnnw.

 

Mae'r Map yn ddogfen gyfreithiol ac mae'n brawf o fodolaeth hawl dramwy gyhoeddus ar y dyddiad hwnnw. Gwneir unrhyw newidiadau dilynol i'r rhwydwaith trwy orchymyn cyfreithiol.

 

Gall aelodau o'r cyhoedd wneud cais am orchymyn i newid y Map Diffiniol. Gellir gweld cofrestr o geisiadau ar y wefan hon. Mae cofrestr o ddatganiadau tirfeddianwyr ynghylch hawliau tramwy dros eu tir hefyd ar gael.

 

Dylai unrhyw un sy’n ceisio sicrwydd cyfreithiol ynghylch lleoliad, statws neu fanylion hawl dramwy gyhoeddus (e.e. ar gyfer trawsgludiad eiddo neu gynllun datblygu) gysylltu â’r Cyngor yn uniongyrchol neu drefnu apwyntiad i weld y Map a’r Datganiad Swyddogol yn Swyddfeydd y Cyngor yn y Dociau. 

 

Gweler Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar Fap

Llwybrau a Gweithgareddau Cerdded

Gellir dod o hyd i wybodaeth am lwybrau a gweithgareddau cerdded ar wefan Ymweld â'r Fro, sy’n cynnwys:

  • Llwybrau’r Fro - llwybrau cerdded ynghyd ag ap Hanesion y Fro

  • Llwybr Arfordir Cymru

  • Valeways, sy’n cyhoeddi gwybodaeth am deithiau cerdded cylchog eraill

  • Llwybr Treftadaeth y Mileniwm, llwybr pellter hir

 Trail-Logos-compilation

Dangosir y llwybrau a hyrwyddir yn ein map rhyngweithiol.

 

Llwybrau Cerdded

 

Y Fforwm Mynediad Lleol

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn.

Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori Cyngor Bro Morgannwg, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, ynghylch gwella mynediad cyhoeddus i dir yn y Fro at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal.

 

Gweler adroddiadau cyfarfodydd y Fforwm Mynediad Lleol isod: