Cost of Living Support Icon

Chwaraeon Anabledd

Mae'r Tîm Byw'n Iach (Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol) yn gweithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru. Rydym yn hyrwyddo cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol i bobl anabl. Ein nod yw cynyddu nifer y bobl anabl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol drwy:

• Gweithio i ddatblygu cyfleoedd cyfredol

• Creu clybiau / cyfleoedd newydd lle mae galw

• Cynnig cyngor a chymorth proffesiynol i sefydliadau i'w helpu i ddod yn gynhwysol

• Gwella ansawdd a nifer yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr

• Gweithio'n agos gyda Chwaraeon Anabledd Cymru i gysylltu â mentrau cenedlaethol

 

 

 

Disability-Sports-Wales-logo

Achrediadau Insport

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu rhaglen Insport. A mae'n cefnogi partneriaid i greu darpariaeth, cyfleoedd ac arferion cynhwysol.  

Bydd hyn yn galluogi pobl anabl i gael mynediad i'r lefel sydd ei hangen arnynt.

 

Rydym yn cefnogi clybiau i ennill achrediad Insport. Y clybiau sydd wedi cyflawni hyn ar hyn o bryd yw:

  • Aur:   Motion Control Dawns, YMCA Gymnasteg y Barri 
    • Arian: Karate Shotokan, Clwb Barri Air Target                                                                

  • Efydd: Karate Jutso Kai Penarth, Golff y Gemau Olympaidd Arbennig, Caiacio’r gemau Olympaidd Arbennig, Barry Town UTD, Pen y Bont SLSC
  • Rhuban: Pêl-rwyd Iau Red Dragon, Clwb Pêl-droed Anabledd y Barri, Clwb Tennis Lawnt Windsor Penarth, Clwb Nofio Anabledd Barry Beavers, Cowbridge Tennis, Bowls De Cymru, Celtic Capability Sailing, Clwb Golff St Athan, TKD Momentum  

 

Cefnogi Unigolion Dawnus

 

Mae'r Tîm Byw'n Iach (Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol), yn gweithio gyda ChAC i ddarganfod pobl dalentog. Gall y bobl dalentog hyn ymuno â’r rhaglen #ysbrydoli drwy gwblhau’r #inspiretrwy'rddolenhon

 

Child throwing foam rocket

 

Eisiau ymuno â chlwb chwaraeon? Edrychwch ar ein rhestr o glybiau o'n cronfa ddata clwb

 

Clybiau Chwaraeon

    


Disability Sport Wales    British Wheelchair Sports    Sport Wales

 

RNIB    Wales Council for the Blind     Wales Council for the Deaf    

 

Welsh Sport Association     British Paralympics Association    British Blind Sport    Cerebral Palsy Sport