Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Fel rhan o'n gwaith i gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw, rydym wedi datblygu cynllun Mannau Cynnes, sef rhwydwaith o fannau cymunedol sy'n cynnig llefydd cynnes a braf i ni ddod at ein gilydd y gaeaf hwn heb unrhyw gost.
Sorry, this service is currently unavailable
Browser does not support script.
Mae Mannau Cynnes yn llefydd cyhoeddus am ddim lle gall ein trigolion fynd i fod yn gynnes, mwynhau cwmni a manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael. Efallai y bydd rhai Mannau Cynnes yn gallu cynnig lluniaeth poeth, neu roi cefnogaeth a chyngor i chi. Mae mannau cynnes ar draws Bro Morgannwg, dewch o hyd i'ch lleoliad agosaf chi gan ddefnyddio ein map.
Pwy sy'n gallu defnyddio Mannau Cynnes?
Gall unrhyw un ddefnyddio Mannau Cynnes. Mae gennym gyfleusterau ar gyfer pob oed a gallu.
A yw Mannau Cynnes am ddim?
Mae Mannau Cynnes bob amser am ddim i'w defnyddio a byddant yn rhoi croeso cynnes i bawb.
Sut alla i sefydlu Man Cynnes?
Os hoffech chi gofrestru Man Cynnes ym Mro Morgannwg, cysylltwch â ni i ddweud wrthym am y cyfleusterau sydd gennych er mwyn i ni eich ychwanegu at ein cyfeiriadur.