Cyflwyno Hawliad Yswiriant
Ym mhob achos bron, bydd y cwmni yswiriant yn anfon asesydd colledion i edrych ar eich eiddo. Byddant yn cadarnhau pa atgyweiriadau a chyfnewidiadau sydd eu hangen a pha elfennau sydd wedi eu cynnwys yn eich polisi.
Gofynnwch i'r cwmni yswiriant:
-
Faint fydd hi cyn i'r asesydd colledion ymweld â chi
-
Os ydych am lanhau eich eiddo neu a fyddant yn cael cwmni i'w wneud ar eich rhan
-
Os byddant yn helpu i dalu am atgyweiriadau a fydd yn lleihau difrod posibl i lifogydd ac felly'n lleihau costau os bydd yn digwydd eto
-
Os byddant yn darparu llety dros dro i chi - gall hwn fod yn llety gwely a brecwast, carafán statig neu dŷ rhent gerllaw. Does dim rhaid i chi dderbyn y lle cyntaf a gynigir i chi.
Gwnewch eich cofnod eich hun o ddifrod gan lifogydd bob amser:
-
Defnyddiwch bin inc parhaol i farcio ar y wal yr uchder y cyrhaeddodd y llifddwr iddo. Gwnewch hyn ym mhob ystafell y mae llifogydd yn effeithio arni.
-
Tynnwch lun neu fideo o’ch eich eiddo sydd wedi'i ddifrodi a rhestrwch y difrod i'ch eiddo a'ch eitemau.
-
Os yw eich cwmni yswiriant yn eich diogelu am golli nwyddau darfodus, gwnewch restr o'r holl fwydydd rydych chi'n eu taflu. Dylech gynnwys unrhyw fwyd y mae llifddwr wedi cyffwrdd ag ef, ynghyd ag unrhyw beth yn eich oergell neu'ch rhewgell sy'n cael ei ddifetha gan golli pŵer.
Cyngor da:
-
Cadarnhewch y bydd y cwmni yswiriant yn talu am unrhyw wasanaethau neu offer sydd eu hangen arnoch
-
Gwnewch nodyn o'r holl alwadau ffôn. Cofnodwch y dyddiad, yr enw a'r hyn y cytunwyd arno
-
Cadwch gopïau o lythyrau, negeseuon e-bost a ffacs y byddwch yn eu hanfon a'u derbyn
-
Cadwch dderbynebau
-
peidiwch â thaflu unrhyw beth nes y cewch wybod y gallwch (ac eithrio bwyd wedi’i ddifetha)
Os ydych yn rhentu eich eiddo, cysylltwch â'ch landlord a'ch cwmni yswiriant cynnwys cyn gynted â phosibl.
Os nad oes gennych yswiriant, dylai eich cyngor lleol allu darparu gwybodaeth am grantiau caledi neu elusennau a allai eich helpu.
Os oes angen mwy o gymorth a chefnogaeth arnoch, cysylltwch â: