Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae ffosydd a sianeli dŵr agored yn dal dŵr oddi ar arwyneb y priffyrdd a’i gludo i’r prif afonydd. Mae sawl ardal yn dibynnu ar ffosydd i ddraenio’r priffyrdd. Perchennog glannau’r afon sy’n gyfrifol am ffosydd oddi ar y briffordd fabwysiedig.
Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n bennaf gyfrifol am brif sianeli dŵr agored (prif afonydd) ac maent yn eu cynnal a’u cadw neu’n cyhoeddi ‘hysbysiad’ i sicrhau bod perchnogion glannau afonydd yn eu cynnal a’u cadw.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gwella’r rhwydwaith ffosydd drwy adeiladu creffynnau dŵr parhaol yn y rhan fwyaf o ffosydd a sianeli dŵr agored y Fro. Mae hyn yn lleddfu problemau cynnal a chadw ac yn darparu pwynt mynediad parhaol i ddŵr fynd oddi ar arwyneb y briffordd.
Caiff ceisiadau i glirio ffosydd tagedig mewn ardaloedd sy’n dueddol o orlifo eu cyflawni fel mater o flaenoriaeth. Caiff ceisiadau safonol i glirio ffosydd eu hymgorffori yn amserlen flynyddol tîm y ffosydd.
Problem â Ffosydd neu Sianel Ddŵr Agored