Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Cynhaliwyd astudiaeth modelu dalgylch gan Cyfoeth Naturiol Cymru a nododd y byddai'r llifoedd sy’n gysylltiedig ag 1 digwyddiad mewn 20 mlynedd yn torri allan o’r sianel i fyny’r afon ac y byddai cwlfer y briffordd yn dechrau gorlwytho. Canfuwyd y byddai cynyddu maint a sythu aliniad cwlfer y briffordd cymaint â phosibl o fewn cyfyngiadau’r lleoliad, yn darparu lefel amddiffyniad o 1 mewn 70 mlynedd. Drwy ail-alinio a lledu’r sianel i lawr yr afon, fel y cynigir, byddai hyn yn cynyddu'r lefel amddiffyniad ymhellach i 1 mewn 100 mlynedd. Er gwaetha’r ffaith nad oedd cyllid llawn ar gael, ymrwymodd y Cyngor rywfaint o arian i baratoi cynllun yn ystod 2015/16 i sicrhau bod cynllun parod mewn lle, yn barod ar gyfer unrhyw ymrwymiad cyllid yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar bod cyllid wedi’i ddyrannu yn eu cyllideb drafft ar gyfer 2016/17 i gwblhau'r cynllun amddiffyniad llifogydd pwysig hwn. Rhagwelir y gall y cynllun gael ei ailadeiladu dros gyfnod o tua 6 mis, gan ddechrau yn yr haf 2016 gobeithio. Oherwydd natur gyfyngedig iawn y safle adeiladu arfaethedig sydd wedi’i leoli yng nghanol y pentref, lle mae’r afon yn llifo a lle mae Boverton Road, Eagleswell Road a’r ffordd i Trebeferad yn cydgyfeirio; bydd y gwaith yn amharu ar yr ardal gyda nifer o gyfnodau lle bydd rhaid cyflwyno rheoliadau traffig un ffordd ac o leiaf un cyfnod lle bydd rhaid cau'r ffordd yn gyfan gwbl.
Y Newyddion Diweddaraf
Browser does not support script.
Ymholiadau Cyffredinol (Llun – Gwener, 8.00am - 6.00pm):
Hyrwyddwyd y cynllun gan: - Cyngor Bro Morgannwg - Cyfoeth Naturiol Cymru Ariannwyd gan: - Cyngor Bro Morgannwg - Llywodraeth Cymru Mewn perygl o lifogydd: 5 Eiddo preswyl 6 Busnes Amcan o gost y cynllun: £2.1m Graddfa amser disgwyliedig: Datblygiad Tendr a Chontract: Gwanwyn 2016 Adeiladu: 6 mis yn dechrau Haf 2016 Amcan cyffredinol: Lleihau’r risg o lifogydd yn sylweddol i bentref Boverton Swyddog arweiniol: Colin Bright