Rydym wedi ystyried opsiynau amrywiol i leihau’r perygl o lifogydd, a’r datrysiad terfynol yw cyfuniad o’r canlynol:
Byddwn yn adeiladu peipiau mwy sy’n gallu ymdopi’n well â dŵr glaw o'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau glaw eithafol. Golyga hyn gynyddu maint y ceuffosydd presennol, neu adeiladu ceuffosydd ychwanegol ar lwybr gwahanol.
Bydd dŵr glaw yn cael ei gyfeirio i ardaloedd storio arbenigol nes bydd y glaw wedi pasio heibio. Unwaith y bydd y glaw wedi stopio a swm y dŵr yn y peipiau wedi gostwng, gellir rhyddau’r dŵr sydd wedi’i ‘storio’ a chaiff lifo i ffwrdd heb achosi unrhyw broblemau.
Drwy ddefnyddio modelu cyfrifiadurol manwl, rydym wedi gallu amcangyfrif ble fydd y llifogydd yn digwydd, a ble bydd unrhyw ddŵr llifogydd yn mynd. Yna defnyddiwyd y wybodaeth hon i addasu'r system, a'r amgylchedd adeiledig lleol, i sicrhau na fydd effaith andwyol iawn ar bobl ac eiddo pan fo llifogydd yn digwydd.
Sicrhau bod busnesau lleol, y cyhoedd, y gwasanaethau brys a’r cyrff cyhoeddus perthnasol yn yr ardal yn gwybod a deall am y peryglon posibl sydd ynghlwm wrth lifogydd, a gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i ddiogelu eu hunain a'r gymuned.
Sicrhau bod yr holl systemau draenio yn yr ardal yn cael eu cynnal a'u cadw’n briodol a bod unrhyw ddatblygiadau i’r dyfodol yn cael eu dylunio i sicrhau nad yw'r perygl o lifogydd yn cynyddu.