Cost of Living Support Icon

 

Solar Together 

Solar Together Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - y broses o brynu paneli solar a batris storio wedi’i hwyluso

Hoffech chi ostwng eich biliau ynni wrth gynhyrchu eich trydan glân eich hun? Mae gosod paneli solar â batris storio yn fuddsoddiad craff, sy’n eich helpu i reoli eich defnydd o ynni wrth leihau eich ôl troed carbon.  

ST_combo

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cyfle i drigolion osod paneli solar o ansawdd uchel am bris cystadleuol. Mae hyn yn cefnogi ein nod o gyrraedd sero net fel sefydliad erbyn 2030 a helpu'r sir i gyflawni sero net erbyn 2050. Drwy gynhyrchu eich trydan eich hun, byddwch yn dibynnu llai ar y grid, yn lleihau eich costau ynni ac yn helpu i leihau allyriadau carbon.  

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi partneru ag iChoosr Ltd, sy'n arbenigwyr annibynnol mewn prynu ar y cyd, i ddod â Solar Together i berchnogion tai cymwys. 

 

Mae Solar Together Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gynllun newydd arloesol sy'n cynnig paneli ffotofoltäig solar a batris storio o ansawdd uchel. Mae'n gynllun prynu ar y cyd, sy'n dod ag aelwydydd ledled y Fro ynghyd i gael paneli solar o ansawdd uchel am bris cystadleuol, gan eich helpu drwy'r broses a'ch hysbysu ar bob cam. Mae gosod paneli solar yn golygu y byddwch yn defnyddio trydan glân ac am ddim ar gyfer eich cartref neu fusnes - gan arbed arian wrth helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Cymerwch y cam cyntaf tuag at ynni gwyrddach a rhatach heddiw!

 

Caniatâd Cynllunio  

Mae gosodiadau ffotofoltäig solar yn cael eu hystyried yn 'ddatblygiad a ganiateir' ac yn gyffredinol ni fydd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, megis mewn Ardaloedd Cadwraeth ac ar Adeiladau Rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio. Am gyngor cynllunio, ewch i Rheolaeth Cynllunio ac adeiladu.

 

Oes gennych baneli solar wedi'u gosod eisoes? Gallwch hefyd gofrestru i gael batris storio wedi'u hychwanegu at eich paneli solar presennol i wneud yn fawr o fanteision eich system.  Cofrestrwch heddiw  

 

Cofrestrwch heddiw 

 How does solar together work - Welsh

Sut mae'n gweithio?

  • 1. Sut mae'n gweithio?
    Cofrestriad: gallwch gofrestru am ddim a heb rwymedigaeth yn solartogether.co.uk/vale-of-glamorgan/join. I gofrestru, rydych chi'n darparu manylion am eich to, fel ei faint a'i gyfeiriad. 
  • 2. Ocsiwn
    Bydd ocsiwn lleihau pris yn cael ei gynnal lle bydd ein gosodwyr solar wedi'u gwirio ymlaen llaw yn cyflwyno cynigion ar gyfer y gwaith. Po fwyaf o bobl sy'n cofrestru, y gorau y dylai'r fargen fod ar gyfer pob cartref. Bydd y gosodwr â'r pecyn mwyaf cystadleuol yn ennill yr ocsiwn. 
  • 3. Argymhelliad personol
    Bydd eich argymhelliad personol yn cael eich e-bostio atoch yn seiliedig ar eich manylion cofrestru. Mae hyn yn cynnwys eich costau a manylebau eich system. 
  • 4. Chi sy’n penderfynu
    Chi sydd wedyn yn penderfynu a ydych eisiau derbyn eich argymhelliad. Does dim rhwymedigaeth i barhau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o amser sydd gennych i dderbyn eich argymhelliad, ac yn eich diweddaru cyn i'r cynllun gau.
  • 5. Gosod:  
    Os byddwch yn derbyn, bydd y gosodwr buddugol yn cysylltu â chi i arolygu eich to a phennu dyddiad gosod.  

 

Cefnogaeth gan y ddesg gymorth

Mae cymorth ar gael trwy gydol y broses, dros y ffôn a thrwy e-bost a fydd, ynghyd â sesiynau gwybodaeth, yn caniatáu i aelwydydd wneud penderfyniad gwybodus mewn amgylchedd diogel a didrafferth.

 

Rhagor o wybodaeth 

Am ragor o wybodaeth, ewch i solartogether.co.uk/vale-of-glamorgan/join lle gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun a chysylltu â'n desg gymorth. 

  

Ynglyn ag iChoosr 

Sefydlwyd iChoosr yn 2008, ac mae'n berchen yn breifat i ddau gyd-sylfaenydd. Cyn iddo ymuno â marchnad ynni'r DU yn 2012, canolbwyntiodd ar gynlluniau prynu ar y cyd yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae bellach yn gweithio gydag arweinwyr cymunedol gan helpu aelwydydd i ddewis cyflenwyr ynni ac ynni solar. Fel yn y DU, mae ei weithrediadau yn parhau i dyfu ar draws Ewrop, Gogledd America a Japan.