Cost of Living Support Icon

0 percentBenthyciadau Tai Di-log a Grantiau Cartrefi Gwag

Mae Cyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â  Llywodraeth Cymru yn darparu benthyciadau di-log a Grantiau Cartrefi Gwag i wella safon isel tai ledled Bro Morgannwg. 

 

Mae’r Cyngor yn cynnig benthyciadau tai heb log. Mae benthyciadau ar gael i helpu perchen-feddianwyr gyda gwaith trwsio hanfodol, i helpu perchnogion i ddod ag eiddo gwag hir-dymor yn ôl i ddefnydd, a hefyd i helpu landlordiaid/datblygwyr i drosi adeiladau gwag yn unedau preswyl.  Mae Grantiau Cartrefi Gwag bellach hefyd ar gael i helpu gyda'r gost o wneud eiddo yn ddiogel cyn symud iddo.

 

Empty Homes banner

 

 

 

Paintbrush iconBenthyciad Eiddo Gwag Landlordiaid

Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion i wneud gwaith atgyweirio neu wella fel bo modd byw yn y cartref. Bydd y benthyciad ar gael i berchnogion sy’n dymuno gwerthu neu rentu’r eiddo. Gellir defnyddio’r benthyciad ar gyfer gwaith ar eiddo preswyl neu adeiladau masnachol, gan gynnwys rhannu eiddo’n fflatiau. Rhaid bod yr eiddo’n wag am leiafswm o chwe mis.  

 

Gall perchnogion eiddo gwag, elusennau, busnesau a datblygwyr tai wneud cais am fenthyciad di-log. Gall ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad o hyd at £35,000 yr uned, a’r uchafswm yw £250,000 i bob ymgeisydd. Caiff y benthyciad ei ad-dalu dros gyfnod o ddwy flynedd os caiff yr eiddo ei werthu, neu bum mlynedd os caiff yr eiddo ei osod.  

 

Benthyciad Eiddo Gwag Landlordiaid - Cwestiynau Cyffredin

 

Dripping tap iconBenthyciad Eiddo Gwag Perchen–Feddiannwyr a Grantiau Cartrefi Gwag

Mae benthyciadau ar gael i berchnogion sy’n dymuno byw mewn eiddo sy’n wag ar hyn o bryd. Gellir defnyddio’r benthyciad i wneud gwaith atgyweirio i alluogi perchennog eiddo gwag i fyw yno ar ôl cwblhau’r gwaith. Gall gwaith gynnwys gosod boeleri gwres canolog newydd, atgyweirio systemau trydanol a gwaith i waredu lleithder. 

 

Mae Grantiau Cartrefi Gwag nawr hefyd ar gael i gynorthwyo perchnogion eiddo gyda'r gost o wneud eiddo gwag yn ddiogel ac yn ddiogel cyn symud i mewn.

 

Caiff ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad di-log o swm rhwng £1,000 a £35,000, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod o hyd at bum mlynedd. 

 

Benthyciad Eiddo Gwag Perchen–Feddiannwyr - Cwestiynau Cyffredin

 

Pencil and spanner iconBenthyciad Perchen-Feddiannwyr (Gwella Cartref)

Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion-feddiannwyr i wneud gwaith sy’n hanfodol i sicrhau bod eu cartref yn ddiogel ac yn gynnes. Gall y gwaith gynnwys gosod boeleri gwres canolog newydd, atgyweirio systemau trydanol, gwaith i waredu lleithder ac adnewyddu ffenestri a drysau diffygiol.  

 

Caiff ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad di-log o swm rhwng £1,000 a £35,000, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod o 5-10 mlynedd.   

 

Benthyciad Perchen-Feddiannwyr (Gwella Cartref) - Cwestiynau Cyffredin

 

Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol

 

  • Ydych chi'n berchen ar eiddo sy'n wag ar hyn o bryd?

  • Oes angen cymorth arnoch i'w wneud yn ddiogel cyn i chi symud i mewn?

  • Ydych chi'n ystyried prynu eiddo gwag i fyw ynddo, ond bod angen cymorth arnoch cyn i chi allu ei ailddefnyddio?

Os ydych, a bod yr eiddo yn wag ers dros 12 mis, gallech fod yn gymwys am grant o hyd at £25,000 i'ch helpu i ailddefnyddio eich eiddo a'i wneud yn fwy effeithlon o ran ynni.

 

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol a nhw sy’n darparu'r grantiau ar ran Awdurdodau Lleol Cymru, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg.

 

I holi, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

 


Sylwer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r prif Reolwr Data ar gyfer y data personol a brosesir at ddibenion y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol. Fodd bynnag, bydd peth o'r data hefyd yn cael ei brosesu gan Gyngor Bro Morgannwg i hwyluso'r Cynllun.

 

 

Gweler dolenni i'r Hysbysiadau Preifatrwydd isod:

 

 

Cymorth TAW ar Eiddo Gwag 

Mae gwneud tai gwag yn addas i fyw ynddynt unwaith eto’n medru bod yn ddrud, yn enwedig pan fo angen gwneud gwaith adnewyddu sylweddol arnynt. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno nifer o newidiadau i’r system dreth a allai leihau costau, o bosib.

 

Gwybodaeth bellach 

Codir ffi am wneud cais am fenthyciad, a bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn medru ad-dalu’r benthyciad o fewn terfyn amser penodol. Caiff benthyciadau eu gwarantu gan yr eiddo, a bydd morgeisi cyfredol yn cael eu cloriannu. Ni all y morgais a / neu’r benthyciad fod yn fwy nag 80 y cant o werth yr eiddo.  

Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru

Mae Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru wedi newid. O 1 Ebrill 2024 ymlaen, mae gan y cynllun fwy o ffocws ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sero net erbyn 2050. Rydyn ni’n cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru ar arbed ynni a dŵr, gwneud y mwyaf o’ch incwm, a lleihau eich ôl troed carbon. Os ydych chi’n gymwys, rydyn ni hefyd yn cynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel gwres canolog, inswleiddio, paneli solar, neu bwmp gwres.

 

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244 neu ewch i’r wefan llyw.cymru/nyth

Nest logo

 

Cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gan gynnwys ECO4 Flex)

ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r darparwr ynni E.ON i gefnogi aelwydydd mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael, gan wneud y cartrefi hynny'n fwy ynni-effeithlon a helpu i leihau effaith biliau ynni cynyddol.

 

Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn gosod meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer ECO4 Flex o 19eg Mai 2023 tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

 

Am fwy o wybodaeth: Dogfen Wybodaeth ECO4 E.ON

 

 

Cysylltu â ni 

Os ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach am y cynlluniau benthyciadau neu becyn cais, llenwch y ffurflen ar-lein  neu gysylltu â:   

 

Eleri Nicholas, Swyddog Cartrefi Gwag a Benthyciadau,

Adfywio a Chynllunio,

Cyngor Bro Morgannwg,

Swyddfa’r Doc,

Heol yr Isffordd,

Y Barri,

CF63 4RT