Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Yn gyffredinol, i fod yn gymwys i dderbyn cymorth rhaid i chi fel rheol fyw yn y DU a bod hawl gennych i dderbyn arian cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r rheolau cymhwysedd yn eithaf manwl ac argymhellwn eich bod yn ceisio cymorth ar hyn.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn datgan eich bod yn ddigartref os nad oes llety ar gael i chi yn y DU neu yn unman arall neu os oes llety gennych ond:
Mae’r Ddeddf yn datgan eich bod mewn peryg o fod yn ddigartref os ydych yn debygol o fod yn ddigartref o fewn y 56 diwrnod nesaf.
Beth os ydw i'n ddigartref yn bresennol?
Os ydych chi angen rhywle i aros yn union, bydd rhaid i asesu os ydych chi yn gymwys i cael llety dros dro. Byddwn yn darparu llety dros dro os ydyn yn meddwl eich bod mewn grŵp angen blaenoriaeth.
Ystyriwn fod angen rhoi blaenoriaeth i chi os:
Os colloch eich llety yn dilyn gweithred fwriadol y gwyddoch y byddai’n arwain at eich gwneud yn ddigartref byddwn yn ystyried eich bod yn fwriadol ddigartref. Enghreifftiau o hyn fyddai;
Os tybiwn eich bod yn fwriadol ddigartref ni fyddwn yn rhoi llety parhaol i chi ond byddwn yn cynnig cyngor a chymorth i chi ddod o hyd i lety addas eich hun.
Ystyriwn fod cysylltiad lleol gennych os:
Os nad oes gysylltiad rhyngoch â’r ardal ond bod cyswllt gennych ag ardal arall byddwn yn atgyfeirio eich cais digartrefedd i’r Cyngor yn yr ardal honno. Os oes mwy nag un Cyngor lle mae gennych gysylltiad lleol â hwy yna gallwch ddewis pa un y byddai’n well gennych ein bod yn cysylltu â hwy.