Siop Cyngor Un Stop
Mae’r Siop Cyngor Un Stop yn cynnig cyngor i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed a’u rhieni neu eu Gofalwyr. Os ydych yn cael trafferth gartref, mae help ar gael i chi. Maent yn cynnig:
-
Gwasanaeth cyfryngu i'ch helpu i ailgysylltu â’ch teulu
-
Asesiad gan y Gwasanaethau Plant a Thai i gael gwybod pa gymorth ychwanegol yr ydych ei angen/eisiau.
-
Cymorth tra eich bod mewn llety amgen
-
Atgyfeiriadau i lety â chymorth
-
Help gyda chael budd-daliadau
-
Cynllunio ar gyfer llety parhaol
Yn ychwanegol, gall eich helpu drwy brosiect Learning4life a gyda Gyrfa Cymru i gyrchu addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddol.
236 Heol Holltwn
Y Barri
Bro Morgannwg