Cynhaliwyd y picnic dathlu blynyddol ar ddydd Mawrth 1 Awst yn Crawshay Court, Llanilltud Fawr. Mae'r tai gwarchod yn gynllun ar gyfer pobl hŷn ac mae'n cael ei redeg gan Cartrefi’r Fro.
Mae'r prosiect yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth i gefnogi ein cymuned leol, yn enwedig gyda'r argyfwng costau byw presennol. Mae Cartrefi’r Fro mewn partneriaeth â’r swyddog cymorth cymunedol yr heddlu Rhiannon Cummings yn gallu rhoi cymorth a chyngor i denantiaid a gwirfoddolwyr wrth weithio ar y prosiect.
Mae Cartrefi’r Fro yn arwain ar y prosiect cymunedol hwn gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Vale Plus Extra, Plant Llantwit, Ogi a gwirfoddolwyr cymunedol lleol. Mae'r prosiect gardd yn Crawshay Court yn cynnwys tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer y tenantiaid ac aelodau o'r gymuned fel rhan o Brosiect Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr.
Cynhaliwyd y digwyddiad i gydnabod a diolch i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhan o sefydlu a chynnal a chadw'r ardd. Cyflwynwyd tystysgrifau o ddiolch i wirfoddolwyr yn y digwyddiad.
Rhoddwyd y bwyd picnic yn garedig gan Ogi Cymru sydd wedi bod yn rhoi cymorth i'r prosiect drwy wirfoddoli yn yr ardd a chynorthwyo i ariannu’r gwaith o osod tŷ gwydr poteli plastig.
Mae Vale Plus Extra wedi bod yn rhagorol ac wedi gweithio'n ddiflino ar y prosiect i'w wneud yn gymaint o lwyddiant. Maent wedi cynaeafu pys, moron, ffa gwyrdd, ffa dringo, betys, tomatos, tatws, corbwmpenni, rhosmari, rhuddygl, letys, winwns, shibwns, pwmpenni ac mae'r cynnyrch yn parhau i ffynnu.
Mae'r holl gnydau a gynaeafwyd wedi cael eu defnyddio gan denantiaid Cynllun Tai Gwarchod Crawshay, aelodau o Vale Plus a gwirfoddolwyr cymunedol lleol a lluniwyd darlun hyfryd o'r ardd gymunedol a’i gyflwyno yn y digwyddiad i'w arddangos yn y lolfa gymunedol.
Dywedodd Mark Ellis, arweinydd gerddi cymunedol y tîm Cyfoethogi Cymunedau "Mae hwn wedi bod yn brosiect hirsefydlog ers cyn Covid ac mae'r gwaith sydd wedi mynd ymlaen gyda phartneriaid yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn wych. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran am wneud i'r ardd edrych mor anhygoel a hardd.