Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
**A fyddech gystal â sicrhau bod unrhyw geblau/cordiau ar eitemau trydanol swmpus yn cael eu torri cyn gosod yr eitem allan i’w chasglu. Byddai hyn hefyd yn cynnwys pibelli arllwys o beiriannau golchi/sychu.
*Gellir eu rhoi mewn sachau duon neu eu rholio. Bydd un eitem yn golygu rholyn tua 1.8m o uchder a 0.4m o led NEU ddwy sach ddu yn llawn carped neu isgarped hyd at uchafswm o 10 bag.
Byddwn yn casglu eitemau rhwng 7.00am a 3.00pm.
Dim ond yr eitemau rydych wedi eu rhestru fydd yn cael eu casglu.
Rhowch eich eitemau y tu allan i’ch eiddo erbyn 7.00am ar y dyddiad a drefnwyd
Os ydych yn byw mewn ardal gyda mynediad cul neu fynediad heb ei fabwysiadu, archebwch trwy C1V i sicrhau casgliad
Diogelwch eitemau fel soffas lledr/ffabrig a matresi gyda gorchudd gwrth-ddŵr megis tarpolin, dalen blastig (bydd hyn yn cael ei dynnu a'i adael wrth ymyl y ffordd) i amddiffyn rhag treiddiad dŵr, os bydd glaw. Ni fydd eitemau sydd wedi'u socian ac sy’n rhy drwm i'w codi yn cael eu cymryd ac ni roddir ad-daliad
Mae’n bosibl y caiff llun ei dynnu os methir â chasglu.
Os bydd tywydd gwael iawn neu broblemau gyda’r cerbyd, efallai y bydd angen i ni newid eich dyddiad casglu.
Ni fydd ad-daliad os dewiswch ganslo’ch casgliad.
Ni ellir addasu neu ychwanegu at yr eitemau a restrir ar ôl gwneud yr archeb
.
£27 am bob tair eitem, a chost ychwanegol o £5.50 yr eitem, hyd at uchafswm o bum eitem.
Nodwch: Ni thelir ad-daliad ar gyfer casgliad swmpus ond gellir addasu dyddiadau casglu yn unol ag argaeledd. Nid ydym yn gallu addasu eitemau ar ôl iddynt gael eu harchebu.
Trefnu Casgliad
Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd â mynediad cul, gwnewch eich archeb trwy C1V i sicrhau ei bod yn bosibl casglu eich eitemau.
Cofiwch roi eich eitemau wrth ochr y ffordd erbyn 7.00am ar yr hwyraf ar ddiwrnod y casgliad.
Polisi Preifatrwydd Gwastraff Swmpus
Os yw eich eitemau o ansawdd da, gallech ystyried eu rhoi o aelodau’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen leol/grŵp cymunedol.
Sefydliad y Galon
Gallwch chi fynd â nhw i siopau Sefydliad y Galon a banciau rhoddion, neu drefnu iddynt gael eu casglu o’ch cartref yn rhad ac am ddim.
British Heart Foundation (gwefan Saesneg)
Grŵp ar-lein ddim er elw sy’n hwyluso’r broses o hysbysebu nwyddau gan drigolion lleol yn rhad ac am ddim. Mae grwpiau Freecycle yn cyflwyno pobl sy’n chwilio am nwyddau i bobl sy’n cynnig nwyddau.
Freecycle (gwefan Saesneg)
Nodwch: mae masnachwyr yn gyfrifol am waredu’r gwastraff maent yn ei gynhyrchu wrth eu gwaith, ond chi sy’n gyfreithiol gyfrifol am sicrhau eu bod yn wneud hynny.