O ddydd Llun 17 Ebrill 2023:
bydd angen ichi ddidoli eich eitemau ailgylchadwy i wahanol gynwysyddion. Rydym wedi rhoi’r cynwysyddion hyn ichi:
o cadi llwyd newydd ar gyfer eich poteli a jariau gwydr,
o bag oren newydd ar gyfer eich cardfwrdd, a
o bag gwyn newydd ar gyfer eich papur.
defnyddiwch eich bag glas presennol ar gyfer eich metelau cymysg, plastigion a chartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak). Os nad oes gennych fag glas ar hyn o bryd, cewch gasglu un o’ch llyfrgell leol, neu gallwch gysylltu â ni.
rydym yn cyflwyno casgliad ailgylchu newydd am ddim ar gyfer eich batris. Rydym wedi rhoi bag bach gwyn newydd ichi ar gyfer eich batris o’r cartref.
rydym yn cyflwyno casgliad ailgylchu newydd am ddim ar gyfer eich eitemau trydanol bach. Os bydd arnoch angen cael gwared ag unrhyw eitemau trydanol bach, gosodwch nhw’n rhydd ar ben un o’ch cadis neu fagiau ailgylchu. Peidiwch â’u rhoi mewn unrhyw fath o gynhwysydd, yn cynnwys unrhyw fagiau plastig untro.