Cofnodion
Mae Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg yn y Barri’n meddu ar gofnod o’r holl enedigaethau, marwolaethau a phriodasau a gynhaliwyd yn y dalgylch hwn o 1837 ymlaen.
Nodwch: gall fod ffiniau wedi symud dros y blynyddoedd ac yn sgil hynny, gallai cofnodion fod wedi symud i mewn ac allan o’r ardal. Os oes unrhyw amheuaeth fod hyn wedi digwydd, cysylltwch â ni cyn ymweld â ni neu ysgrifennu aton ni. Gallai’r crynodeb isod o gofnodion sydd yn ein meddiant fod o gymorth cyffredinol, fodd bynnag.
Cofnodion Genedigaethau a Marwolaethau
Records
Dalgylch/Ardal | Dyddiadau | Swyddfa Gofrestru |
Sain Niclas |
14 Awst 1837 - 31 Rhagfyr 1934 |
Bro Morgannwg, Y Barri
|
Penarth |
03 Ebrill 1897 - 31 Mawrth 1990
01 Ebrill 1996 tan heddiw
|
Bro Morgannwg, Y Barri
|
Y Barri |
01 Ionawr 1920 - 31 Mawrth 1990
01 Ebrill 1996 tan heddiw
|
Bro Morgannwg, Y Barri
|
Y Bont-faen |
Ebrill 1837 tan 31 Mawrth 1974
Ebrill 1974 tan 31 Mawrth 1990
01 Ebrill 1996 tan heddiw
|
Pen-y-bont ar Ogwr Bro Morgannwg, Y Barri
Bro Morgannwg, Y Barri
|
Nodwch: cedwir y rhan fwyaf o gofnodion genedigaethau a marwolaethau Bro Morgannwg ym meddiant Caerdydd. Ffoniwch i gadarnhau, oherwydd ceir eithriadau i’r rheol gyffredinol hon.
Priodasau
Marriages
Lleoliad y Briodas | Dyddiadau | Swyddfa Gofrestru |
Swyddfa Gofrestru |
1837 - 1934 |
Caerdydd |
Priodasau mewn Swyddfa Gofrestru (pobl oedd yn byw yn y Barri/ Penarth/ Bro Morgannwg a Dwyrain Morgannwg |
1934 - 1974
|
Bro Morgannwg, Y Barri
|
Swyddfa Gofrestru (a phan oedd y cofrestrydd yn mynychu eglwysi)
|
1974 - 31 Mawrth 1996
|
Caerdydd |
Yr holl eglwysi plwyf a’r lleoliadau cymeradwy yn y Barri, Penarth a Bro Morgannwg
|
|
Bro Morgannwg, Y Barri |
Gallwch wneud cais am gopi o dystysgrif o’r cofnodion yma ar lein, drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy ymweld â Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg, y Barri.
CAIS AM DYSTYSGRIF GENI, PRIODAS, MARWOLAETH
Tystysgrifau Copi Safonol
Pris: £12.50 yn barod i'w casglu/postio 2il ddosbarth ar ôl 3.00 pm ar y 15fed diwrnod
Tystysgrif Copi â Blaenoriaeth
Pris: £38.50 yn barod i'w casglu/postio dosbarth 1af ar ô 3.00 pm ar y diwrnod gwaith nesaf
Dylai sieciau ac archebion post fod yn daladwy i: Y Cofrestrydd Arolygu.
Mae gofyn talu â cherdyn am geisiadau dros y ffôn, a bydd angen i ddeiliad y cerdyn fod yn bresennol i wneud y taliad.
Os ydych yn ymgeisio drwy lythyr, cofiwch gynnwys amlen â stamp arni wedi’i chyfeirio atoch chi.
Wrth wneud cais am dystysgrif, mae angen rhoi manylion bras yr enedigaeth, y briodas neu’r farwolaeth, os nad yr union rai cywir.
Os ydy’r wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir, byddwn yn darparu tystysgrif o fewn pum niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os mai gwybodaeth rannol yn unig y gellir ei rhoi, efallai fydd angen ychwaneg o amser arnom i chwilio’r mynegeion â llaw, neu bydd angen manylion pellach gennych chi cyn i ni gyflawni chwiliad. Os na fyddwn ni’n medru dod o hyd i’r cofnod y gwnaethoch gais amdani, byddwn yn dychwelyd eich siec neu archeb bost atoch.
Os oes cais am dystysgrifau lluosog, rydyn ni’n argymell eich bod yn anfon siec ar wahân ar gyfer pob cofnod.