Adolygiad o derfynau cyflymder 20mya
Ym mis Gorffennaf 2024 gofynnwyd i bob cyngor yng Nghymru gasglu adborth preswylwyr ar derfynau 20mya fel y gallent asesu hyn yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd eraill ar derfyn cyflymder 20mya. Cyhoeddwyd y canllawiau diwygiedig hwn ym mis Gorffennaf.
Mae'r sylwadau a dderbyniwyd bellach yn cael eu hadolygu.
Camau nesaf
Rydym yn adolygu'r holl sylwadau a gawsom ac yn eu hasesu yn erbyn y canllawiau diwygiedig.
Mae'n debyg y bydd y broses adolygu yn cymryd hyd at ddiwedd y flwyddyn galendr i'w chynnal ac ar ôl ei chwblhau, bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Wrth benderfynu a ddylai ffordd gael terfyn cyflymder uwch, rhaid i gynghorau fod yn sicr na fydd unrhyw gynnydd o'r fath yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Os yw'r canllawiau diwygiedig yn awgrymu bod ffordd yr ydym wedi derbyn adborth arni yn addas ar gyfer terfyn cyflymder 30mya, byddwn yn esbonio hyn pan fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad.
Bydd ffyrdd lle na fyddai 30mya yn addas o dan y canllawiau diwygiedig yn aros ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Ar gyfer unrhyw ffordd lle mae'r canllawiau diwygiedig yn awgrymu y gallai terfyn cyflymder 30mya fod yn addas, byddwn yn cynhyrchu gorchymyn rheoleiddio traffig (TRO), sy'n broses gyfreithiol y mae'n rhaid i ni ei dilyn os ydym am newid y terfyn cyflymder.
Bydd pob TRO yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall preswylwyr ddangos cefnogaeth neu godi gwrthwynebiadau. Byddwn yn cyhoeddi manylion unrhyw newidiadau ar ein gwefan.
Yn dilyn yr ymgynghoriadau TRO, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar unrhyw newidiadau fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y cyngor.
Mae cyfnod gwrando Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiadau ffyrdd bellach wedi cau ond os ydych am ofyn am derfyn cyflymder i'w adolygu cysylltwch â'n canolfan gyswllt.