Os yw’r plentyn wedi llwyddo i gyrraedd Lefel 1 y Safonau Cenedlaethol, bydd yn symud ymlaen at Lefel 2. Cwrs ‘ar y ffordd’ yw hwn, sy’n para am awr a hanner bob dydd am dridiau ychwanegol.
Nod y cwrs yw annog a datblygu sgiliau seiclo diogel yn ogystal â meithrin agwedd gadarnhaol at ddefnyddio’r ffordd, cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o amgylchiadau’r ffordd a thraffig, ac ennyn hyder yn y dysgwyr i seiclo ar heolydd lleol.
Caiff yr hyfforddiant ei gynnal ar ffyrdd lleol. Mae 15 amcan dysgu gorfodol i Lefel 2, a rhaid cyflawni’r rhain er mwyn cwblhau’r cwrs. Dyma nhw:
- Holl amcanion Lefel 1
- Dechrau taith ar y ffordd
- Gorffen taith ar y ffordd
- Bod yn ymwybodol o beryglon posibl
- Deall pryd a sut i ddangos bwriad i ddefnyddwyr eraill y ffordd
- Deall ymhle i seiclo ar ffordd sy’n cael ei defnyddio
- Mynd heibio i gerbydau wedi’u parcio neu sy’n symud yn araf
- Mynd heibio i ffyrdd ochr
- Troi i’r dde i heol lai
- Gwneud tro pedol
- Troi i’r dde i heol fawr
- Troi i’r dde oddi ar heol fawr i heol fach
- Dangos y gallu i wneud penderfyniadau a dealltwriaeth o strategaeth seiclo diogel
- Dangos dealltwriaeth syllfaenol o Reolau’r Ffordd Fawr.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau arsylwi a hawster trin, cyflwyno Rheolau’r Forddd Fawr i ddenfyddwyr ifanc y ffyrdd, dysgu pwysigrwydd cynnal a chadw beic, meithrin ymwybyddiaeth o beryglon a darparu gwybodaeth a chyngor ar gael eich gweld a gwisgo helmed diogelwch.
I gloi, mae’n cynnig cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth plentyn o beryglon a allai eu hwynebu wrth iddynt seiclo ar y ffyrdd. Mae pob plentyn yn derbyn tystysgrif am fynychu pob sesiwn a chyrraedd lefel cymhwysedd y Safonau Cenedlaethol priodol. Nodwch nad yw’r cwrs hwn yn rhoi hawl i blant seiclo i’r ysgol. Penderfyniad y rhiant / gwarcheidwad fydd hwn yn y pen draw.