Gyrwyr ifanc: 17-25 oed
Fersiwn uwch o gwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru, a chaiff ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru.
Mae’r cwrs gyrru byr wedi ei ddysgu gan arbenigwyr, a’i nod yw datblygu arferion da, cynyddu ymwybyddiaeth ac ehangu profiad. Mae ar gael i bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yng Nghymru am £20 yn unig, a thelir y gweddill gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant i awdurdodau lleol.
Mae Pass Plus yn canolbwyntio ar yr isod:
-
Gyrru ar y draffordd
-
Arferion gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon posibl
-
Gyrru yn y nos
-
Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur
-
Gyrru ar lonydd cefn gwlad
-
Meddwl ymlaen
Buddion Pass Plus:
-
Gwella sgiliau gyrru
-
Gwell gyfle i gael yswiriant rhatach
-
Llai o bosibilrwydd o gael gwrthdrawiad neu frifo'ch hun, eich ffrindiau ac eraill
Rhagnodi Lle
Mae Adran Diogelwch y Ffordd Cyngor Bro Morgannwg, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn cynnal cyrsiau Pass Plus bob mis yng Ngorsaf Dân y Barri.
I gadw eich lle, ewch i wefan Diogelwch Ffyrdd Cymru neu ffoniwch:
Diogelwch Ffyrdd Cymru