Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae 10,000 o lusernau goleuadau stryd confensiynol wedi’u newid am rai LED mwy effeithlon, a gaiff eu pylu gan 50 y cant rhwng hanner nos a 6am, sy’n golygu mwy o oriau o olau a diwedd i oleuo rhan o’r nos yn yr ardaloedd hyn.
Gall llusern LED bara am 20 i 25 o flynyddoedd neu 100,000 o oriau o’u cymharu â goleuadau traddodiadol, sydd â hyd oes o dair i chwe blynedd. Mae hyn yn golygu mi fydd gwaith cynnal a chadw’r Cyngor, a chostau atgyweiriadau yn lleihau. Mae goleuadau LED yn:
Mae ein tîm goleuadau’r stryd wedi bod yn gosod lampau LED ledled Bro Morgannwg. Gallwch weld lleoliad y lampau LED ar y map.
Nodir goleuadau nos ysbeidiol mewn melyn, goleuadau LED mewn gwyrdd a goleuadau safonol mewn oren. I weld lleoliadau’r lampau LED:
Map y goleuadau LED
Mae technoleg newydd yn caniatáu i ni bylu’r golau yn oriau mân y bore lle nad oes angen goleuadau mor llachar oherwydd diffyg cerddwyr a thraffig. Os yw llewych gormodol yn achosi problem, gellir gosod lamplenni dros y goleuadau perthnasol.
Mae llawer o gynghorau eraill yng Nghymru a Lloegr wedi gosod goleuadau stryd LED fel rhan o’u strategaeth i ostwng lefelau ynni goleuadau stryd.