Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a'ch bod naill ai'n 60 oed neu'n hŷn neu'n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysus yng Nghymru a'r Gororau a chael gostyngiad neu deithio am ddim ar lawer o wasanaethau trenau.
Mae gennych hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach os ydych o leiaf yn 60 oed ac mae eich prif breswylfa yng Nghymru.
Gwnewch gais am Gerdyn Teithio Rhatach 60 a hŷn Cymru
Gwnewch gais am Gerdyn Teithio Rhatach Cymru i Berson Anabl gyda Chydymaith
Mae’r cynllun ar gael i holl ddeiliaid Tocyn Teithio Consesiynol a gyflwynir gan unrhyw Awdurdod Lleol yng Nghymru. Bydd deiliaid tocynnau yn gymwys i gael gostyngiad o 34% ar brisiau lleol ar rwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd, ar neu ar ôl 09.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.
Mae pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed nawr yn gallu cofrestru eu diddordeb ar gyfer y ‘Cerdyn Cynllun Teithio gyda Gosgyngiad i Bobl Ifanc Cymru’ a fydd yn eu galluogi i dalu prisiau llai ar bob bws lleol a gwasanaethau TrawsCymru ledled Cymru.
Llyw.cymru/fyngherdynteithio